Cymdeithas Tai Rhondda
01/10/2008
Cafodd y prosiect partneriaeth hwn rhwng Cwmni, Cymdeithas Tai Rhondda ac Age Concern ei gefnogi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a chanolbwyntiodd ar roi cyngor ariannol i'r rhai dros 65 oed. Mae'r prosiect wedi'i gydnabod gan y Sefydliad Tai Siartredig a Housemark fel arfer da.
Mae tîm o dri chynghorwr arbenigol yn asesu'r hawl i fudd-daliadau ac yn cynnig cymorth gyda chwblhau ffurflenni hawlio. Cynhelir y prosiect gan y Gymdeithas mewn partneriaeth ag Age Concern ac mae'n cael atgyfeiriadau gan amrywiaeth o asiantaethau lleol ac ar lafar gan glybiau a grwpiau cymdeithasol. Bu'n arbennig o effeithiol o ran cynhyrchu hunanatgyfeiriadau ac ymholiadau. Cynorthwywyd dros 220 o bobl gyda chyfradd lwyddiant o 95 y cant o ran cynorthwyo cleientiaid i gael budd-daliadau heb eu hawlio (rhwng £40-£50 yr unigolyn, yr wythnos, ar gyfartaledd).
At ei gilydd, mae'r prosiect wedi arwain at hawlio dros £500,000 o fudd-daliadau nas hawliwyd yn flaenorol.
Enw cyswllt: Lesley Davies
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01443 424200
Ebost: enquiries@rhondda.org
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai y Rhondda
97 Dunraven Street
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1AR
Gwefan: www.rhondda.org