Rhestr Astudiaethau achos

Gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau arian ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

01/10/2008

'Cartrefi Iach' yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Sir Fynwy. Ym mis Mawrth 2006 sicrhaodd Asiantaeth Ynni De-ddwyrain Cymru (gyda chefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd a ChyngorBwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sy'n darparu cyfraniad ariannol bach gan y ddau) £47,500 dros ddwy flynedd i redeg y Cynllun Cartrefi Iach.

O dan y cynllun mae pob un o'r cynghorau hyn yn cael presenoldeb wyth diwrnod dros ddwy flynedd mewn digwyddiadau megis sioeau lleol, diwrnodau gwybodaeth i bobl hyn ac mewn stondinau marchnadoedd. Yn y digwyddiadauhyn bydd cynghorydd hyfforddedig o'r Asiantaeth Ynni yn rhoi gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni a chymryd atgyfeiriadau amgrantiau i roi inswleiddio waliau ceudod a/neu lofftydd ac atgyweiriadau gwresogi.

Mae pob cyngor hefyd yn cael 20 o sesiynau hyfforddi sy'n parhau am awr ac yn trafod tlodi tanwydd, ei achosion ac atebion.Mae hyfforddeion yn dysgu sut a pham y dylent gyfeirio rhywun i'r Cynllun Cartrefi Iach. Caiff y sesiynau hyfforddiant hyn euhanelu at weithwyr allweddol megis staff iechyd, staff grantiau'r cyngor, gweithwyr gwirfoddol ac elusennau sy'n gweithio gydaphobl ddiamddiffyn. Ar ôl i unigolyn cael ei gyfeirio at y Cynllun Cartrefi Iach byddai aelod o staff yn cymryd yr holl wybodaeth angenrheidiol ac yn penderfynu ar y Cynllun Grant mwyaf addas ar gyfer y client. Yna byddai'r client yn cael llythyr yn esbonio'r cynllun y maent wedi ymuno ag ef a'r cam nesaf yn y broses. Mae staff yn monitro'r atgyfeiriadau yn rheolaidd i sicrhau bod y mesurau'n cael eu gosod cyn gynted â phosibl. Ar ôl eu hysbysu bod y gwaith wedi'i gwblhau, mae'r Asiantaeth Ynni yn anfon Llythyr Adborth er mwyn gwerthuso boddhad cwsmeriaid.

Mae'r Tîm Cartrefi Iach hefyd yn ymchwilio i arian elusennau a llesiannol i ddarparu mesurau i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r cynlluniau presennol. Un enghraifft o hyn yw grant diweddar o £500 a wnaed gan y Midwifery Benevolent Fund i ferch ym Merthyr Tudful nad oedd yn gallu fforddio inswleiddio'r llofft a cheudod y wal. Ers ei lansio mae Cartrefi Iach wedi sicrhau £60,000 o arian ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Pobl Ynni Scottish Power i ddarparu cronfa argyfwng i drigolion Merthyr Tudful nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau grant presennol neu y mae angen mesurau na chwmpesir gan gynlluniau presennol arnynt (Adolygiad Blynyddol yr EST 2005/2006). Mae'r gronfa hon yn cwmpasu eitemau megis siacedi tanc dwr poeth, atgyweiriadau gwresogi a gwresogi dros dro neu wresogi newydd.

Ers lansiad Cynllun Cartrefi Iach mae tri chyngor arall (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Cyngor Sir Fynwy) wedi ymuno â'r prosiect drwy wneud cyfraniad ariannol bach. Bydd y cynghorau hyn yn cael hyd at 10 sesiwn briffio y flwyddyn ar gyfer eu dewis staff.

Enw cyswllt: Teryl Lanfear
Swydd: Swyddog y Fenter
Ffôn: 01443 485515
Ebost: teryl.lanfear@rhondda-cynon-taff.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
The Pavilions
Cambrian Park
Cwmclydach
Tonypandy
CF40 2XX
Gwefan: www.rhondda-cynon-taf.gov.uk