Rhestr Astudiaethau achos

Strategaeth lleihau carbon

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

01/10/2008

Ynghyd â'r Cynghorau eraill yng Nghymru, mae Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi arwyddo'r Datganiad ar Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru. Mae'r ddogfen hon yn nodi amcanion y Cyngor i gymryd camau i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Cydnabu'r Cyngor nad oedd ganddo strategaeth amylcheddol trosfwaol. Wrth adolygu ei ddefnydd o ynni, daeth y Cyngor i'r Casgliad bod trafnidiaeth yn gyfrifol am 7 y cant o'i allyriadau carbon.

Er mwyn rhoi cyfeiriad stategol i'w nod o wella effeithlonrwydd ynni, cafodd y Cyngor gefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Carbon.

Sefydlwyd grwp gwaith yn 2006 gyda'r nod o lunio strategaeth a chynllun cyflwyno er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Gan ddefnyddio arweiniad estynedig gan yr Ymddiriedolaeth Carbon, datblygodd y grwp strategaeth Cyngor-gyfan a oedd yn gymwys ar gyfer pob gwasanaeth, gan gynnwys trafnidiaeth.

Roedd y Rheolwr Fflyd yn rhan o'r grwp. Yr agweddau o'r strategaeth sy'n berthnasol i'r fflyd yw:

Nid yw'r strategaeth eto wedi ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cyngor. Fodd bynnag, mae nifer o faterion o fewn y strategaeth wedi gwneud cynnydd yn barod. Mae'r Cyngor yn bwriadu treialu tanwydd bio, wedi gwirfoddoli i dreialu cerbydau trydan ac mae gweithiwr graddedig o dan hyfforddiant yn gweithio gyda'r Cyngor i asesu costau a buddion defnyddio tanwydd amgen.

Enw cyswllt: Julie Waites
Swydd: Rheolwr Fflyd
Ffôn: 01443 827750
Ebost: julie.y.waites@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
The Pavilions
Cambrian Park
Cwmclydach
Tonypandy
CF40 2XX 
Gwefan: www.rhondda-cynon-taf.gov.uk