Rhestr Astudiaethau achos

Rhaglen ymwybyddiaeth gyrwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

01/10/2008

Mae Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi profi cynnydd sylweddol yn y galw am ei gynlluniau ailgylchu. Fel canlyniad, penderfynodd y Cyngor wneud cais i adnewyddu ei drwydded gweithredu yn 2005. Byddai hyn yn galluogi'r Cyngor i weithredu mwy o gerbydau nwyddau trymion.

Gan ystyried bydd y broses o adnewyddu'r drwydded yn cynnwys arolygiad trywlyr gan VOSA, cynhaliodd y Cyngor adolygiad cyfan ac aildrefnu o'i fflyd.

Amlygodd yr adolygiad yr angen i wella ymwybyddiaeth gyrwyr am eu cyfrifoldebau nhw i wirio eu cerbydau. Amlygodd hefyd nad oedd y gweithdrefn presennol ar gyfer adrodd namau ar gerbydau yn ddigon cadarn.

Penderfynodd y Cyngor roi cyflwyniadau ymarferol o'r enw 'Toolbox Talks' i hysbysu gyrwyr ar sut i chwilio eu cerbydau'n ddyddiol, sut i lenwi'r ddogfennaeth priodol a sut i gydymffurfio gyda'r drefn adrodd namau.

Mae swyddog technegol o'r adran Reolaeth Fflyd - cyn ffitiwr cerbydau modur - yn rhoi'r cyflwyniadau drwy ymweld â storfeydd unwaith bob 3-6 mis.

Mae'r cyflwyniadau yn canolbwyntio ar arddangosiadau ymarferol o sut y dylai gyrwyr weithredu eu harolygiadau dyddiol ar y cerbydau.

Cofnodir presenoldeb gyrwyr drwy lofnodi ffurflen. Caiff hwn ei gofnodi'n ganolog er mwyn targedu unigolion sydd heb eu hyfforddi.

Gweithredir 'gwiriadau wrth y gât' yn y storfeydd gan y Swyddog Technegol sy'n stopio cerbydau rhag adael gatiau'r storfa er mwyn sicrhau bod y gwiriadau dyddiol wedi cael eu gwneud.

Mae'r Cyngor wedi adrodd manteision sylweddol gan ystyried y buddsoddiad isel. Mae'r Rheolwr Fflyd yn hapus bod cyflwyniad y system yn cynnwys addysgu gyrwyr a chodi eu hymwybddiaeth ac mai ond 15 munud y mae'n cymryd i roi'r cyflwyniad a bod modd i nifer o aelodau staff eu mynychu ar unwaith.

Enw cyswllt: Julie Waites
Swydd: Rheolwr Fflyd
Ffôn: 01443 827750
Ebost: julie.y.waites@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
The Pavilions
Cambrian Park
Cwmclydach
Tonypandy
CF40 2XX  
Gwefan: www.rhondda-cynon-taf.gov.uk