Cyngor Sir Fynwy
01/01/2009
Gall pobl anabl wynebu anawsterau sylweddol o ran mynediad i gefn gwlad. Mae arolygon yn dangos eu bod yn gwneud hynny'n llawer llai aml na gweddill y boblogaeth.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datblygu dull strategol o hwyluso mynediad pobl anabl i gefn gwlad gyda nifer o fentrau:
- Mae ganddo gontractau hirsefydlog, parhaus gyda phum grwp anabl sy'n cynrychioli'r tri math o anabledd: corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.
- Er mwyn asesu addasrwydd rhai rhannau allweddol o'i rwydwaith o lwybrau troed ar gyfer mynediad gan bobl anabl, cafodd y Cyngor bobl annibynnol i gerdded nifer o rannau o'r llwybrau gyda phobl anabl, ac roedd felly yn gallu ystyried eu safbwyntiau.
- Mae'r Cyngor hefyd yn dilyn polisi mynediad lleiaf cyfyngol, sy'n symud ymaith yr holl rwystrau y gellir eu symud yn ddiogel, er enghraifft lle nad oes problemau ynglyn â rheoli stoc anifeiliaid. Mae hyn hefyd yn cynorthwyo grwpiau eraill, megis y sawl sydd â choestsys babanod, i gael mynediad i gefn gwlad.
- Mae gwefan y Cyngor Sir ar gyfer mynediad i gefn gwlad yn darparu gwybodaeth gynhwysol ar gyfer pobl anabl, yn cynnwys teithiau cerdded lleol a theithiau cerdded "di-rwystr" a gwybodaeth ynglyn â safleoedd a gweithgareddau gwledig. Mae'r wefan hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i argaeledd sgwteri symudedd, er mwyn i bobl anabl gael mynediad i rai safleoedd cefn gwlad a rhannau o rwydwaith llwybrau troed y Cyngor.
Mae'r ffactorau allweddol ar gyfer llwyddiant y dull hwn yn cynnwys ei natur strategol; ymgysylltu â phobl anabl a'u cynrychiolwyr; mesurau ymarferol; a darparu gwybodaeth ynglyn â mynediad drwy wefan.