Rhestr Astudiaethau achos

Mae'r sector preifat yn gwneud cyfraniadau amrywiol at gynyddu gweithgarwch corfforol a chyflawni targedau Dringo'n Uwch

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

01/01/2009

Mae JJB Sports yn un o'r manwerthwyr chwaraeon a hamdden mwyaf yn y DU.
Bu cynllun Active Kids Sainsbury's yn gweithredu am dair blynedd bellach.

Canolfan Ffitrwydd JJB - Merthyr

Mae JJB Sports yn un o'r manwerthwyr chwaraeon a hamdden mwyaf yn y DU. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi ehangu ei wasanaethau i gynnwys cadwyn o glybiau ffitrwydd, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn agos i'w siopau. Ceir un cyfleuster o'r fath ar Barc Manwerthu Cyfarthfa, Merthyr. Er ei fod yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae ganddo dros 4,500 oaelodau, y gwnaeth 2,600 ohonynt gais i ymuno cyn i'r cyfleuster gael ei agor. Mae'r ganolfan yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf, ac yn codi tâl o £36 y mis am aelodaeth lawn, dim ond £4 yn fwy na chanolfan hamdden yr awdurdod lleol yn Rhyd-y-Car. Yn dilyn hynny, penodwyd y rheolwr yn Is-gadeirydd fforwm Byw'n Egnïol Merthyr yn darparu cynrhychiolaeth bwysig y sector preifat ar y grwp.

Sainsbury's - Active Kids

Bu cynllun Active Kids Sainsbury's yn gweithredu am dair blynedd bellach, ac mae eisoes wedi darparu gwerth £34 miliwn o offer chwaraeon a sesiynau hyfforddi i dros 26,000 o ysgolion ledled y DU. Rhaid i ysgolion gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun. O dan y cynllun, mae siopwyr yn derbyn taleb am bob £10 a gaiff ei wario mewn siopau neu ar-lein, a thalebau bonws am ffrwythau a llysiau ffres a chynnyrch sy'n cynnwys symbol yr afal iach. Rhoddir y talebau i ysgolion, grwpiau Sgowtiaid neu Geidiaid, sy'n gallu eu cyfnewid am bob math o offer chwaraeon, gwisg chwaraeon a sesiynau hyfforddi, yn ogystal ag offer coginio i annog bwyta'n iach o fewn ysgolion.

Enw cyswllt: Alistair Neil
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01685 725000 
Ebost: customer.care@merthyr.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Y Neuadd Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN 
Gwefan: www.merthyr.gov.uk