Rhestr Astudiaethau achos

Gwerthuso tenantiaethau prawf

Cymdeithas Tai Gogledd Cymru

01/01/2009

Roedd y Gymdeithas wedi treialu'r defnydd o denantiaethau prawf cychwynnol cyn eu cyflwyno ym mis Ionawr 2006. Nodwyd ystod o feysydd peilot yn seiliedig ar faterion perthnasol penodol megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eiddo anodd ei osod, yn ogystal â chymorth gan drigolion ac asiantaethau eraill.

Roedd y cynlluniau peilot yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau rheolaidd â thenantiaid newydd i'w cynorthwyo i gynnal eu tenantiaethau. Gwerthuswyd effaith y defnydd o denantiaethau cychwynnol yn yr ardaloedd peilot a chafwyd bod y defnydd o denantiaethau cychwynnol peilot yn cael yr effaith gadarnhaol o helpu pobl ddiamddiffyn yn hytrach na'u rhwystro.

Arweiniodd y canlyniad hwn a barn trigolion a fynegwyd drwy arolygon amrywiol atbenderfyniad y Gymdeithas i gyflwyno tenantiaethau cychwynnol ar gyfer pob tenant newydd.

Enw cyswllt: Paul Diggory
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01492 572727
Ebost: customerservices@nwha.org.uk
Cyfeiriad: Plas Blodwel
Broad Street
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9HL 
Gwefan: www.nwha.org.uk