Cymdeithas Tai Sir Benfro
01/01/2009
Deilliodd y prosiect hwn o angen a nodwyd am lety â dodrefn o fewn Strategaeth Ddigartrefedd yr Awdurdod Lleol.
Nodwyd y defnyddwyr gwasanaeth a allai elwa o'r cynllun hwn cyn y cynigiwyd llety. Rhentwyd y dodrefn trwy dâl gwasanaeth a oedd yn gymwys ar gyfer budd-daliadau tai.
Cytunwyd ar becyn dodrefn a nwyddau gwyn gyda defnyddiwr y gwasanaeth ac fe'u prynwyd gan y Gymdeithas.
Roedd y cynllun yn hyblyg i fodloni gofynion yr unigolyn a gallai gynnwys carpedi a llenni. Roedd y dodrefn yn symud gyda'r tenant, ac ni fyddent yn aros yn yr eiddo pe bai'r tenant yn symud. Os nad oedd angen y dodrefn mwyach, fe'u hailgylchwyd i'r prosiect a dilëwyd y tâl gwasanaeth yn ymwneud â'r dodrefn.
Cynorthwywyd saith teulu ers dechrau'r cynllun ac, ar gyfartaledd, derbyniodd bob teulu gwerth £3,000 o ddodrefn. Ym mhob achos, bu argaeledd cymorth o'r fath yn fodd i'w helpu i gynnal y denantiaeth a gwella ansawdd bywyd yr unigolion.
Enw cyswllt: Peter Maggs
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01437 763688
Ebost: pembshousing@pembs-ha.co.uk
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai Sir Benfro
Meyler House
St Thomas' Green
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1QP
Gwefan: www.pembs-ha.co.uk