Cyngor Sir Penfro
01/01/2009
Mae Tîm Cynllunio Rhaglen Adeiladu Cyfalaf Cyngor Sir Penfro dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cynnwys y canlynol yn Rhaglen Gyfalaf Cyngor Sir Penfro:
Mae'r tîm yn gwerthuso technolegau newydd i sicrhau y gellir cyflawni'r buddiannau a ragwelwyd cyn eu mabwysiadu fel technoleg safonol. Ceir enghraifft o ymrwymiad Cyngor Sir Penfro tuag at weithredu effeithlonrwydd ynni a dwr mewn adeiladau newyddyng Nghanolfan Chweched Dosbarth Crug Glas yn Sir Benfro. Cynlluniwyd y Ganolfan mewn cydweithrediad â Dwr Cymru yn dilyn derbyn arian gan Amcan 1 a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac ystyrir ei bod yn enghraifft o arfer gorau o ran effeithlonrwydd ynni a dwr. Cwblhawyd yr adeilad yn 1998 a saif o hyd fel esiampl gwych.
Mae'r adeilad ond yn defnyddio 1,666 litr o ddwr fesul disgybl y flwyddyn, o'i gymharu â meincnod arfer da o 4,000 o litrau. Mae'r adeilad ond yn defnyddio 37 kWh o nwy naturiol y m2 y flwyddyn o'i gymharu â meincnodi arfer da o 108 kWh. Cynhyrchodd goleuadau ynni isel a rheolaeth dros oleuadau arbedion o 20 y cant mewn biliau goleuo a defnyddio ynni. Ailadroddwyd llawer o'r dechnoleg a ddefnyddir yn y Ganolfan ym mhob un o gynlluniau dilynol Cyngor Sir Penfro, ac mae'r dechnoleg bellach yn safonol: er enghraifft, cynaeafu dwr glaw, goleuadau a rheolaethau ynni isel, awyru naturiol a boeleri cywasgu a rheolaethau.
Enw cyswllt: Steve Keating
Swydd: Rheolwr Ynni
Ffôn: 01437 775273
Ebost: Steve.keating@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Gwefan: www.pembrokeshire.gov.uk