Rhestr Astudiaethau achos

Gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a dwr

Cyngor Sir Penfro

01/01/2009

Yn ystod Gwanwyn 2005 gosodwyd gyriadau cyflymder cyfnewidiol yng nghanolfannau hamdden Penfro, Dinbych-y-pysgod ac Aberdaugleddau, sy'n lleihau'r ynni a ddefnyddir gan bympiau dwr pyllau nofio.

Wedi'i ariannu gan Gronfa Fenter Cyngor Sir Penfro, rhagwelir arbed £3,207 a 30 tunnell o CO2 y flwyddyn, gan dalu costau'r prosiect mewn ychydig o dan bedair blynedd. Paratoir cynnig pellach ar gyfer gosod offer tebyg yng nghanolfannau hamdden Arberth, y Preseli a Thyddewi.

Enw cyswllt: Steve Keating
Swydd: Rheolwr Ynni
Ffôn: 01437 775273
Ebost: Steve.keating@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP  
Gwefan: www.pembrokeshire.gov.uk