Dinas a Sir Abertawe
01/10/2008
Gosod paneli haul yng Nghyngor Sir Fynwy, Cyngor Powys a Dinas a Sir Abertawe
Yn 2002/2003 cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy Ymarfer Newid Tanwydd yn cynnwys chwe byngalo sy'n eiddo i'r Cyngor ym mhentref Dingestow, ger Mynwy. Ar yr adeg honno roedd yr adeiladau'n cael eu gwresogi gan systemau a daniwyd gan lo ac nid oedd y pentref yn cael cyflenwad nwy. Er gwaethaf rhai anawsterau technegol, gosodwyd boeleri wedi'u tanio gan olew ar gyfer gwresogi a systemau casglu ynni'r haul ar y to ar gyfer dwr poeth domestig mewn pedwar adeilad. Cyfanswm y costau gosod arferol ar gyfer byngalo bach tair ystafell wely oedd £8,300. Costiodd pob system casglu ynni'r haul tua £3,300 i'w cyflenwi a'i gosod, tra bod gosod unedau boeleri wedi costio tua £1,500. Roedd y costau oedd yn weddill yn ymwneud â symud y boeleri tanwydd solet Parkray presennol, ailadeiladu cypyrddau, eitemau gwaith adeiladu cyffredinol, a chyflenwi a gosod y tanciau storio olew. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn ceisio cael arian i nodi effaith y gosodiadau hyn ar y defnydd o ynni, biliau tanwydd ac allyriadau CO2. Byddai unrhyw asesiad o'r fath yn ceisio cymharu enillion effeithlonrwydd ynni y cynllun hwn â rhai'r pympiau gwres o ffynhonnell aer sydd hefyd wedi'u gosod gan y Cyngor.
Yn debyg, mae Dinas a Sir Abertawe wedi gosod paneli solar mewn 28 o adeiladau'r Cyngor a wresogwyd gan lo yn flaenorol yn ardal Clydach (sydd hefyd yn ardal heb gyflenwad nwy). Mae'r paneli yn darparu ynni a gaiff ei droi'n wres sy'n gallu darparu dwr poeth domestig. Ariennir y cynllun drwy Raglen Tai Cymdeithasol y cwmnïau cyfleustodau a grantiau o £18,180 a £14,000 o Raglen Clear Skies yr Adran Masnach a Diwydiant a'r Gymdeithas Tanwydd Solet yn y drefn honno. Yn ogystal â newid tanwydd, rhoddir gwell inswleiddio yn yr adeiladau cymwys. Sicrhawyd y costau lleiaf posibl yn y cynllun oherwydd bod y cartrefi a ddewiswyd eisoes yn rhan o Raglen Ail-ddiddosi o dan Raglen Cynnal Cyfalaf y Cyngor.
Mewn profion a wnaed ar ran yr Adran Masnach a Diwydiant bydd y cyfraniad ynni a ragwelir tua 1,351kWh fesul cartref y flwyddyn o ddwr poeth defnyddiol. Mae'r arbedion amcangyfrifiedig mewn allyriadau CO2 yn gyfwerth â 0.5 tunnell fesul eiddo y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn bwriadu monitro'r llwyddiant a'r lleihad mewn biliau tanwydd flwyddyn ar ôl cwblhau'r prosiect.
Mae'r prosiect peilot ynni adnewyddadwy sy'n weddill sy'n mynd rhagddo yng Nghymru yn cynnwys gosod systemau gwresogi ag ynni'r haul mewn 13 o anheddau, saith adeilad preifat ac wyth adeilad sy'n eiddo i'r Cyngor ym Mhowys. Mae'r HEES wedi cyfrannu £2,000 fesul cartref tuag at gostau gosod, gyda Chyngor Sir Powys yn darparu arian ychwanegol. Fel rhan o'r cytundeb hwn bydd Eaga yn cael data defnydd cyn ac ar ôl y cynllun, a byddant yn arolygu profiadau cwsmeriaid a gosodwyr.
Fodd bynnag, fel y mae Eaga yn cydnabod, bydd angen peilot ar raddfa fawr yn defnyddio grwpiau rheoli ac ystod ehangach o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Gweler isod am ddisgrifiad o'r gwaith a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gydag Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWI) i gynllunio astudiaeth werthuso o'r fath.
Enw cyswllt: Pam Walters
Swydd: Swyddog y Ddeddf
Ffôn: 01792 652457
Ebost: pam.walters@swansea.gov.uk
Cyfeiriad: Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Sir
Oystermouth Road
Abertawe
SA1 3SN
Gwefan: www.swansea.gov.uk