Rhestr Astudiaethau achos

Proses o gadarnhau a yw cleifion yn canolbwyntio ar y claf

Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy

04/11/2008

Yr Uwch Dîm Asesu Clinigol yn Nhor-faen
Mae'r Uwch Dîm Asesu Clinigol yn cynnwys tri Aseswr sy'n Nyrsys Clinigol sy'n ymateb yn gyflym i gyfeiriadau er mwyn atal achosion o dderbyn cleifion o'r gymuned a chartrefi gofal.

Mae rhifau ffôn cyswllt wedi'u rhesymoli o fewn yr Ymddiriedolaeth ac felly mae pob cyfeiriad i'r Uwch Dîm Asesu Clinigol yn cael ei wneud drwy un rhif. Pan gaiff unigolyn ei gyfeirio, bydd nyrs yn ymweld â'r claf i gymryd hanes llawn a chynnal archwiliad manwl. Cynhelir profion diagnostig, yn cynnwys prawf gwaed ac ocsigen ac electrocardiogram yn syth yng nghartref y claf. Rhaid aros rhai oriau cyn cael y canlyniadau ac mae'r nyrs yn defnyddio'r amser hwn i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r tîm ailalluogi os oes angen. Os bydd angen pelydr X, mae gan y tîm drefniant gyda'r adran radioleg yn Ysbyty'r Sir lle y rhoddir blaenoriaeth i gleifion yr Uwch Dîm Asesu Clinigol. Mae'r tîm hefyd wedi meithrin cydberthnasau gwaith agos ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru felly ceir mynediad cyflym i drafnidiaeth pan fo angen.

Darperir llywodraethu clinigol drwy'r Meddyg Ymgynghorol a Chofrestrydd Gofal Canolraddol arbenigol. Anogir nyrsys yr Uwch Dîm Asesu Clinigol i ofyn am eu cyngor os oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglyn â chlaf a gall y meddygon ymweld â chleifion yn y gymuned neu eu gweld mewn clinigau priodol a gynhelir yn rheolaidd.

Mae cyfeiriadau yn cael eu derbyn bellach gan bob practis meddyg teulu yn Nhor-faen a thrwy gydweithio'n agos â chartrefi gofal yn y fwrdeistref mae bron bob derbyniad diangen o'r ffynhonnell hon wedi'i ddileu. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun ar gael i bobl dros 75 oed, rhwng 8am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyfeiriad: Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy
Singleton Court Business Park
Wonastow Road
Trefynwy
Sir Fynwy 
NP25 5JA
Gwefan http://www.monmouthshirelhb.wales.nhs.uk/