Cyngor Sir Ddinbych
01/10/2008
Amlygodd grwp defnyddwyr y fflyd corfforaethol bod y wybodaeth a gasglwyd gan yrwyr yn y llefydd lle bu'r damweiniau ddim yn ddigonol gan amlaf.
Darganfu'r grwp nad oedd rhai o yrwyr y Cyngor yn llenwi dogfennaeth ddamwain yn gywir ac nad oedd manylion rhai o'r digwyddiadau wedi eu cofnodi'n gywir. Bu rhai achosion lle roedd y ddamweiniau lawer yn fwy difrifol nag y disgrifiwyd gan y gyrrwr
Penderfynodd y Cyngor gyflwyno mesurau a fydd yn gwella ansawdd y wybodaeth a gesglir ym mannau'r damweiniau a fydd yn galluogi hawliadau yswiriant i'w cael eu prosesu'n fwy effeithlon. Bydd y mesurau hefyd yn darparu gwybodaeth gwell i'w ddefnyddio pan ddaw cyfreithiad yn erbyn y Cyngor.
Penderfynodd y grwp defnyddwyr ddarparu camerâu tafladwy i'w gosod yn y cerbydau fflyd a fydd yn galluogi gyrwyr i gymryd lluniau o ddamweiniau.
Ystyriodd y grwp sut y dylid pecynnu'r camerâu hyn a'u gosod yn y cerbydau. Nodwyd bod diffoddwyr tân a phecynnau cymorth cyntaf eisoes yn bresennol mewn rhai cerbydau. Felly, penderfynodd y grwp i becynnu'r camera gyda diffoddydd tân a'r pecyn cymorth cyntaf ym mhob cerbyd priodol. Ar ôl sylweddoli nad oedd y fath becyn ar gael o silff siop, comisiynwyd cwmni gan y Cyngor i ddatblygu a darparu'r cynnyrch. Mae'r pecyn damweiniau yn awr ar gael yn fasnachol.
Defnyddir y pecynnau damweiniau gan y Cyngor cyfan. Rhoddir arweiniad i yrwyr ar sut i ddefnyddio'r pecyn damweiniau drwy fanylion sydd wedi'i gynnwys yn nogfennaeth Polisiau a Gweithdrefnau Trafnidiaeth y Cyngor sydd ar gael i bob aelod o staff perthnasol.
Mae'r cynllun wedi yn rhedeg am bron i bedair mlynedd ac mae mwy na chant o becynnau damweiniau wedi'u gosod yn fflyd y Cyngor. Mae'r Cyngor yn talu llai na £40 am bob pecyn damwain.
Mae'r Rheolwr Trafnidiaeth wedi adrodd bod nifer o yrwyr nawr yn defnyddio'r camerâu i gymryd manylion megis cyflwr yr heol, lleoliadau cerbydau a goleuo ar y ffyrdd. Er nad yw'r Cyngor wedi gwneud arbediadau ariannol, cafwyd adroddiadau o wella sylweddol o ran rheolaeth hawliadau. Mae ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd yn dilyn damweiniau wedi gwella'n sylweddol ac mae hyn wedi ei gwneud hi'n haws i brosesu hawliadau yswiriant.
Yn ogystal â gwell effeithlonrwydd o ran prosesu hawliadau yswiriant, mae'r Rheolwr Trafnidiaeth wedi datgan y gwnaeth y Cyngor ad-dalu'r costau o bwrcasu a gosod y pecynnau damweiniau, gan fod y cynllun wedi llwyddo i leihau neu amddiffyn hawliadau yswiriant yn well drwy ddarparu tystiolaeth gwell.
Enw cyswllt: Graham Taylor
Swydd: Rheolwr Fflyd
Ffôn: 01745 839231
Ebost: graham.taylor@denbighshire.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Wynnstay Road
Rhuthun
LL15 1YN
Gwefan: www.denbighshire.gov.uk