Rhestr Astudiaethau achos

Llawlyfr Gyrwyr

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

01/10/2008

Mae gan CCGC bron i 500 o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd ledled Cymru. Mae ganddo fflyd o dros 120 o gerbydau ac mae wedi gwario bron i £670,000 ar ei fflyd yn 2006-2007.

Canfu adolygiad fflyd gan ymgynghorydd allanol yn 2004 yr angen i wneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth ddefnyddio cerbydau CCGC neu wrth ddefnyddio eu cerbydau nhw at ddibenion busnes. Amlygwyd nifer o feysydd a oedd yn peri pryder gan yr adroddiad gan gynnwys rhai gyrwyr oedd heb drwyddedau teithio dilys neu yswiriant a cherbydau preifat nad oedd yn cael eu cynnal na'u cadw'n iawn.

Yn 2007, penderfynodd CCGC i gyhoeddi llawlyfr i yrwyr. Sefydlwyd tîm prosiect a oedd yn cynnwys staff rheoli cyfeusterau, gan gynnwys y Rheolwr Trafnidiaeth.

Cynllunir y llawlyfr i fod yn ddogfen sengl cyrraeddadwy i staff sy'n cynnwys pob gwybodaeth sy'n ymwneud â defnydd cerbydau at ddibenion busnes CCGC.

Mae'r manylion yn cynnwys:

• Maylion cyswllt ar gyfer methiannau ac adfer;
• Gweithdrefnau rheoli damweiniau;
• Sefyllfaoedd lle awdurdodir defnyddio CCGC;
• Gwybodaeth diweddar; a
• Rhestr wirio am sut i ddefnyddio treilyrs yn ddiogel.

Anfonwyd y llawlyfr i bob aelod o staff CCGC, ei osod ar y rhyngrwyd mewnol a'i osod ym mhob cerbyd a ddefnyddiwyd gan CCGC.

Mae'n anodd dyfalu beth yw effeithiau penodol y llawlyfr oherwydd bod CCGC wedi cyflwyno'r mesur ar yr un pryd â mesurau eraill i wella diogelwch ac effeithlonrwydd gyrwyr. Fodd bynnag, mae defnyddioldeb darparu'r fath wybodaeth yn anodd i'w wadu a dylai gyfrannu at gynnydd o ran ymwybyddiaeth gyrwyr o'u cyfrifoldebau.

Mae'r llawlyfr yn un o nifer o fesurau a weithredwyd i wella effeithlonrwydd o fewn ei fflyd ac mae hyn wedi lleihau gwariant ar danwydd o £149,375 yn 2006 i £136,212 yn 2007.

Mae'r llawlyfr i yrwyr yn helpu'r Cyngor gyda'i nod o gyflawni ei ddyletswyddau gofal i weithwyr o dan y Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol.

Enw cyswllt: Gareth Roberts
Swydd: Rheolwr Fflyd 
Ffôn: 01248 385500
Ebost: gr.roberts@ccw.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW  
Gwefan: www.ccw.gov.uk