Rhestr Astudiaethau achos

Rheoli tanwydd

Cyngor Dinas Casnewydd

01/10/2008

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithredu fflyd o dros 400 o gerbydau.

Roedd y Cyngor eisoes yn gweithredu system rhifiad llaw ar gyfer recordio'r defnydd o danwydd aoedd yn gofyn i yrwyr gwblhau dogfennau papur a'u cyflwyno i'r Adran Storio ar gyfer coladu a gwerthuso. Roedd y system yn agored i gamgymeriadau dynol wrth gwblhau'r ddogfennaeth. Roedd diffyg cywirdeb y wybodaeth ar ddefnydd tanwydd yn golygu bod yna risg o esgeuluso tystiolaeth o gamddefnyddio tanwydd.

Mae'r Cyngor yn awr yn defnyddio system rheoli tanwydd awtomatig sydd yn defnyddio offer electronig sydd ynghlwm â phympiau tanwydd y storfa er mwyn rheoleiddio a chofnodi defnydd tanwydd. Mae'n ofynnol i yrwyr ddefnyddio dau allwedd wrth lenwi eu tanciau gyda thanwydd. Mae un allwedd yn adnabod y gyrrwr ac mae'r llall yn adnabod y cerbyn sy'n cael ei lenwi.

Mae'r system yn recordio gwybodaeth am faint y tanwydd a ddefnyddir, yn ogystal â'r gyrrwr a'r cerbyn. Mae gofyn i'r gyrrwr nodi milltiredd y car i mewn i'r system â llaw.

Un problem amlwg gyda'r system yw ei bod hi'n anodd generadu gwybodaeth perfformiad rheolaidd ar ddefnydd tanwydd. Nid oes gan y Rheolydd Fflyd fynediad uniongyrchol i'r meddalwedd rheolaeth tanwydd ac mae'n rhaid iddo fynnu adroddiadau gan yr Adran Storfeydd. Mae hyn yn rhwystro adroddiadau cyson gan ystyried mai ond tri neu bedwar adroddiad a geir mewn blwyddyn.

Mae'r Cyngor nawr yn bwriadu gwella'r ffordd y mae'n defnyddio'r system rheoli tanwydd drwy gysylltu'r system yn electronig â'i feddalwedd rheolaeth fflyd sydd ar wahân. Bydd hyn yn gwella defnyddioldeb a mynediad i wybodaeth ar reolaeth. Bydd y cyswllt electronig yn ei gwneud hi'n haws i fesur effeithlonrwydd tanwydd pob cerbyd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud defnydd llwyddiannus o'r system am nifer o flynyddoedd a disgrifiwyd y prosesau rheoli tanwydd yn effeithiol wrth sicrhau bod y defnydd o danwydd yn cael ei fonitro.

Dywedodd y Rheolwr Fflyd fod gan y system awtomatig nifer o fanteision dros y system flaenorol. Mae'r wybodaeth ar y rheolaeth a eneradir yn fwy cywir ac mae'r broses yn arbed amser. O ganlyniad i'r wybodaeth manylach hon, mae hi'n haws i fonitro defnydd abnormal o danwydd, ac y bydd hi'n haws i amlygu achosion o gamddefnyddio tanwydd.

Enw cyswllt: Russell Powell
Swydd: Rheolwr Fflyd 
Ffôn: 01633 233644 
Ebost: russell.powell@newport.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Dinas Casnewydd
Canolfan Ddinesig
Casnewydd
NP20 4UR  
Gwefan: www.newport.gov.uk