Rhestr Astudiaethau achos

Uned adsefydlu strôc, Ysbyty Nevill Hall

Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent

01/10/2008

Mae Ward Adsefydlu Strôc Ysbyty Nevill Hall yn uchel ei barch o fewn yr Ymddiriedolaeth am ei ddiwylliant o hybu annibyniaeth a sicrhau bod cleifion yn cael y cyfle gorau posib i drosglwyddo i'r cyfnod nesaf yn eu gofal yn y dull mwyaf addas ac amserol.

Mae cyfathrebu o fewn tîm amlddisgyblaethol y ward a rhwng staff a chleifion/teulu/gofalwyr yn cael ei ystyried yn allweddol yn natblygiad y claf trwy'r system. Mae staff yn cychwyn cyfathrebu gyda'r partïon perthnasol cyn gynted ag y mae'r claf yn cyrraedd y ward. Mae'r atgyfeiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn gyflym ac mae staff yn cydnabod yr angen i siarad gydag aelodau teulu a gofalwyr er mwyn codi unrhyw faterion a all godi a fedrai fod yn rhwystr i ryddhau claf. Mae gofalwyr ac aelodau teulu hefyd yn cael eu harolgu pob mis ynglyn â gwahanol agweddau gofal, gan gynnwys cwestiynau am amgylchiadau personal a all oedi rhyddhad.

Mae cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol yn cael eu cynnal yn wythnosol lle mae trafodaethau yn cynnwys anghenion gofal y claf sy'n weddill, anghenion meddyginiaeth, angen am ymchwiliadau pellach a threfniadau rhyddhau. Dywedodd staff wrthym bod y fforwm yma yn effeithiol gan fod pob disgyblaeth yn bresennol ac mae problemau yn cael eu datrys yn gyflym. Mae cael pob disgyblaeth yn bresennol hefyd yn golygu y gall y cyfarfod dderbyn yr holl wybodaeth perthnasol am y claf ac mae'r wybodaeth ar y cyd ynglyn â gwasanaethau gofal canolraddol yn eang.

Mae'r ward hefyd yn defnyddio dull ysgrifennu nodyn amlddisgyblaethol. Mae pob disgyblaeth yn ysgrifennu yn nodiadau'r claf i fanylu ar y weithred penodol a gymerwyd. Gwelir yn effeithiol wrth wella cyfathrebiaeth rhwng disgyblaethau a sicrhau fod pob gweithred dylai ei wneud yn mynd yn ei flaen.

Mae dogfennaeth pellach a ddefnyddir ar y ward yn cynnwys cynllun rhyddhau amlddisgyblaethol sy'n manylu pob trefniant sy'n orfodol i'w wneud cyn bod claf yn cael ei ryddhau yn ddiogel. Mae copïau o'r ffurflen hon yn cael ei gadw gan y claf a'r ward ac mae copi yn cael ei osod yn nodiadau'r claf. Mae dogfen cynllun rhyddhau ar wahan yn cael ei ddefnyddio ac yn cynnwys rhestr wirio rhyddhau/trosglwyddo ac mae'n angenrheidiol i nyrs ei arwyddo pan fo gweithredau penodol yn cael eu cwblhau. Mae gweithredau yn cynnwys hysbysu'r claf o ryddhad, trefnu trafnidiaeth a gosod cynllun gofal mewn lle.