Rhestr Astudiaethau achos

Datblygu cytundeb Adran 33 a chyllideb gyfun ar gyfer cyfleuster Dyffryn Mynyw yn Sir Fynwy

Cyngor Sir Fynwy

01/10/2008

Agorwyd cyfleuster gofal integredig Dyffryn Mynwy gan Gyngor Sir Fynwy, BILl Sir Fynwy ac Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent ym mis Mai 2006.

Mae gan y cyfleuster 19 o welyau i gleifion mewnol ac mae meddygon teulu Sir Fynwy yn darparu'r gofal meddygol. Mae yna hefyd Uned Mân Anafiadau o dan arweiniad nyrsys, Tîm Gofal Cymunedol, Tîm Ailalluogi, ysbyty dydd a gwasanaethau dydd, ysbyty dydd iechyd meddwl i bobl hyn, sesiynau ffisiotherapi i gleifion allanol a sesiynau Therapi Galwedigaethol, adran pelydr-X, timau nyrsio cymunedol ac amrywiaeth o wasanaethau i gleifion allanol a chlinigau iechyd cymunedol.

Mae gan y cynllun hwn gyllideb gyfun a rheolwr gwasanaeth sy'n rheoli'r Ymddiriedolaeth, y BILl a staff y Cyngor. Fel rhan o'r cynllun hwn, gall Nyrsys Cyswllt Rhyddhau ddefnyddio cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol. Er mai ar gam datblygu cynnar y mae'r cyfleuster, sy'n golygu na ellir gwerthuso ei effaith eto, bu gwelliannau proses o ran gwasanaethau Ailalluogi a gwasanaethau eraill. Mae tîm ar y cyd Dyffryn Mynwy wedi adolygu'r gweithrediad ac wedi llunio cynllun busnes i'w gyflwyno gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystod ail hanner 2007 i helpu'r cyfleuster i wella ei weithrediad a'i ganlyniadau.

Prif fuddiannau canfyddedig trefniadau Dyffryn Mynwy yw'r ffaith y caiff tîm amlddisgyblaethol cadarn ei ddatblygu sy'n gweithio o dan strwythur rheoli cyffredin o fewn un cyfleuster. Cynhelir cyfarfod tîm amlddisgyblaethol wythnosol ar y ward a rhydd trefniant rheoli unedig y gallu i'r rheolwr newid arfer er mwyn sicrhau bod cleifion yn y ganolfan, yn hytrach nag yn cael eu trosglwyddo rhwng adrannau a galwedigaethau. Hefyd, mae'r arweinyddiaeth gyffredin yn ddefnyddiol iawn o ran datblygu cysyniad o un llwybr ac annog staff i weithio y tu allan i ffiniau caeth.

Roedd y broses o ddatblygu cytundeb 'Adran 33' yn broses hir yn rhannol oherwydd roedd adeiladu'r cyfleuster yn brosiect Menter Cyllid Preifat. Dywedodd yr Awdurdod Lleol a'r BILl wrthym mai'r gwersi a ddysgwyd wrth ddatblygu cytundeb 'Adran 33' yw'r angen i sicrhau:

Enw cyswllt: Simon Burch
Swydd: Pennaeth Gwasanaethau Integredig
Ffôn: 01633 644644
Ebost: simonburch@monmouthshire.gov.uk