Cyngor Sir Swydd Rydychen
01/10/2008
Ddiwedd y 1990au, roedd Cyngor Sir Swydd Rydychen a'r pum ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a oedd yn bodoli yn Swydd Rydychen ar y pryd yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol o ran gofalu am bobl hyn.
Yn sgîl y ffaith bod mwy o alw am wasanaethau, penderfynodd y partïon mai dim ond drwy weithio mewn partneriaeth, rhannu adnoddau i gyflawni nodau cyffredin a gweithio mewn ffyrdd callach y gellid darparu gwasanaethau mewn ffordd effeithiol yn y tymor canolig i'r hirdymor.
Dros gyfnod o amser, dechreuodd y partïon gydweithio'n agosach o ran gwasanaethau pobl hyn. I ddechrau, nid oedd trefniadau partneriaeth yn cynnwys cyfuno cyllidebau. Datblygodd y trefniadau'n gynyddrannol ac roeddent yn cynnwys:
1) cyflwyno'r broses o gomisiynu gwasanaethau ar y cyd;
2) cytuno ar strategaeth gwasanaeth ar y cyd;
3) cyflwyno rôl comisiynydd arweiniol.
Cafodd y naill barti a'r llall fudd o'r trefniadau hyn, gwellwyd llwybrau cleifion a gwireddwyd arbedion. Hefyd, arweiniodd at well cydberthnasau rhwng y cyngor a'r ymddiriedolaethau gofal sylfaenol ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr.
Arweiniodd llwyddiant y mentrau hyn wedi arwain at benderfynu trefnu cyllideb gyfunol yn 2002 gan gwmpasu;
• cartrefi gofal;
• gofal canolraddol (cymunedol);
• cyfarpar;
• gofal parhaus.
Ar hyn o bryd nid yw'n cynnwys gwasanaethau acíwt pobl hyn.
Roedd y penderfyniad i gyfuno cyllidebau yn llwyddiant, gan leddfu'r pwysau ariannol a'r pwysau ar wasanaethau. Cyflwynodd Cyngor Sir Swydd Rydychen a'r ymddiriedolaeth gofal sylfaenol drefniadau cyfuno pellach ar gyfer comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl (2005) a gwasanaethau anableddau dysgu (2006). Mae'r strategaeth ar y cyd ar gyfer y gwasanaeth anableddau dysgu yn canolbwyntio'n gryf ar lety â chymorth, yn hytrach na llety sefydliadedig.
Mae'r adnoddau cyfunol yn Swydd Rydychen yn canolbwyntio ar waith comisiynu yn bennaf, ond mae gan yr Ymddiriedolaeth sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl gyllideb gyfunol fach.
Caiff cyllideb gyfunol bellach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ei sefydlu ar hyn o bryd.
Strwythur
Dechreuodd Swydd Rydychen gyfuno cyllidebau gan ddefnyddio Adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999, (a ddarparodd hyblygrwydd i drosglwyddo arian rhwng awdurdodau lleol a chyrff y GIG at ddibenion enillion iechyd). Cafodd ei disodli gan adran 75 o Ddeddf Iechyd 2006. Cytunodd pum Grwp Gofal Sylfaenol (fel yr oeddent ar y pryd) i gyfuno arian â'r Cyngor Sir er mwyn ceisio darparu gwasanaeth teg a chyfartal ledled Swydd Rydychen a sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon.
Caiff pob un o gyllidebau cyfunol Swydd Rydychen eu rheoli gan grwp rheoli ar y cyd sy'n cynnwys pedwar rheolwr o bob ochr o'r busnes, yn ogystal â rheolwr cyllideb. Mae'r grwp yn cwrdd yn fisol ac yn atebol yn uniongyrchol i Gabinet y Cyngor a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth.
Er mwyn rheoli risg yn effeithiol ategir y trefniadau cyfuno gan gytundebau cyfreithiol cynhwysfawr.
Caiff adroddiadau eu llunio'n rheolaidd ar alldro ariannol yn ogystal â darparu gwasanaethau. Mae cardiau sgorio cytbwys, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gwasanaeth, ar waith i fonitro perfformiad cyllidebau cyfunol.
O fis Ebrill 2009, mae Swydd Rydychen wedi ehangu eu cyllidebau cyfunol ar gyfer pobl hyn a gwasanaethau anableddau corfforol (£120m) a gwasanaethau iechyd meddwl (£40m) yn sylweddol.
Yr Heriau
Cred partneriaid Swydd Rydychen, er mwyn sefydlu cyllideb gyfunol, fod angen y canlynol:
• i aelodau etholedig mewn llywodraeth leol a chyfarwyddwyr anweithredol ym maes iechyd arddel barn strategol;
• llywodraethu gwleidyddol ymhob sefydliad sydd â strwythurau a fframweithiau atebolrwydd gwahanol iawn;
• hyder o ran 'colli rheolaeth a rheoli';
• cytundeb ardal lleol;
• cydberthnasau da ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddog;
• prosesau ffurfiol yn seiliedig ar Grwpiau Rheoli ar y Cyd
• pob parti wedi ymrwymo i gyfrannu at well effeithlonrwydd.
Mae ymddiriedaeth rhwng y partneriaid yn hanfodol ac mae'n rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd. Yn achos Swydd Rydychen nodweddir hyn gan barodrwydd y partïon i dalu unrhyw orwariant cyllidebol sy'n gysylltiedig â'r parti arall o'u tanwariant eu hunain.
Y Buddiannau
Buddiannau posibl cyllidebau cyfunol yw:
• y gall cyllidebau cyfunol arwain at arbedion ariannol sylweddol;
• nid oes rhaid sefydlu cyllideb gyfunol fawr - yr hyn sy'n allweddol yw pa mor effeithiol y defnyddir y gyllideb gyfunol;
• y gallwch ganolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael, yn hytrach na phwy sy'n talu;
• y gall cyllidebau cyfunol effeithiol helpu i wneud y defnydd gorau o allu ac adnoddau cyffredinol;
• gwell cydweithio a buddiannau ehangach o ddatblygu cydberthnasau aeddfetach;
• llinellau comisiynu unigol sy'n arwain at well eglurder ar gyfer darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau;
• gwell tryloywder. Wrth rannu adnoddau a gwybodaeth caiff gwell dealltwriaeth o'r materion a'r heriau sy'n wynebu pob un o'r partneriaid ei meithrin;
• y gallant ei gwneud yn haws cyflawni targedau perfformiad allweddol drwy gyfrifoldeb a rennir;
• y gall cyllidebau cyfunol ei gwneud yn haws datblygu mesurau canlyniadau ar y cyd ar gyfer dinasyddion;
• y gallant arwain at well eglurder o ran y llwybrau cleifion/gwasanaeth. Mae defnyddwyr gwasanaethau yn fwy tebygol o gael gwasanaeth di-dor, cyflymach a mwy effeithiol.
• llai o risg o "symud costau" rhwng partneriaid;
• datblygiadau gwasanaeth arloesol ac integredig.
Ceir rhagor o fanylion am rai o'r buddiannau penodol a welodd Swydd Rydychen drwy gyfuno cyllidebau pobl hyn ar wefan yr Adran Iechyd drwy'r ddolen ar ddiwedd yr astudiaeth achos hon.
Problemau posibl
Amlygodd Swydd Rydychen rai problemau o ran gwneud i gyllidebau cyfunol weithio hefyd:
• nid ydynt yn debygol o weithio os na ddibynnir ar gydberthnasau aeddfed sy'n bodoli eisoes, oherwydd fel arall mae perygl y datblygir diwylliant 'ni a nhw' a fydd yn atal hyblygrwydd ac arloesedd;
• mae angen i bartïon fod yn agored wrth drafod trefniadau cyfuno. Mae hyn yn golygu polisi llyfr agored a chydnabod lle mae pwysau sylweddol ar gyllidebau hanesyddol;
• nid yw cyllidebau cyfunol yn ateb pob problem. Gweithiwch allan yr hyn sydd angen ei gyflawni. Efallai nad cyllidebau cyfunol yw'r ffordd orau na'r unig ffordd o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir gan bartneriaid;
• gall rhai rhanddeiliaid fod o'r farn bod cyllidebau cyfunol yn gyfystyr â 'cholli rheolaeth'. Mae angen deall y gall ildio rheolaeth olygu ennill dylanwad;
• er y dylai cyflwyno cyllidebau cyfunol wella canlyniadau gwasanaeth, mae angen i chi sefydlu mesurau o hyd er mwyn asesu eu heffaith a'u heffeithiolrwydd;
• mae angen i bob parti ddeall y risgiau a'r cyfrifoldebau perthynol yn wyneb pwysau ar wasanaethau a/neu gwtogi ariannol yn y dyfodol.
Enw Cyswllt: Mr Paul Purnell
Swydd: Pennaeth Gofal Cymdeithasol ar gyfer Oedolion
Ffôn: 01865 323576
Gwefan: http://www.dh.gov.uk/en/Healthcare/Urgentcare/DH_4119576