Rhestr Astudiaethau achos

Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwella ei broses o gau cyfrifon drwy nifer o fentrau

Cyngor Sir Penfro

01/10/2009

Fel cyrff sector cyhoeddus eraill, mae Cyngor Sir Penfro (y Cyngor) wedi gorfod rheoli proses cyfrifon yn wyneb terfynau amser cynt a newidiadau yn y gofynion cyfrifo dros y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn rheoli'r broses, mae'r Cyngor wedi datblygu dull sy'n sicrhau bod y broses o gau cyfrifon yn mynd rhagddi'n effeithlon ac sy'n sicrhau y caiff amcanion a therfynau amser eu bodloni.

Y buddiannau a'r ffactorau a lwyddodd

Mae gan y fenter gyffredinol nifer o elfennau allweddol sy'n cyfrannu at ei llwyddiant cyffredinol:

Canlyniad

Mae'r dull hwn sydd â ffocws yn arwain at baratoi cyfrifon drafft ar amser, bodloni gofynion CIPFA a lleihau faint sydd angen ei addasu. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i Gynghorwyr ac yn helpu'r broses gymeradwyo i fynd yn ei blaen yn ddidrafferth.

Mae dealltwriaeth gytûn well o ddisgwyliadau rhwng y Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru sy'n sicrhau bod cydberthnasau da'n cael eu cynnal.

Enw cyswllt: Debbie McEvoy
Swydd: Cyfrifydd y Grwp
Ebost: debbie.mcevoy@pembrokeshire.gov.uk