Rhestr Astudiaethau achos

Cynyddu cyfleoedd ar gyfer cynhwysiant a darparu gwell gwerth am arian drwy foderneiddio ysgolion arbennig

Cyngor Sir y Fflint

01/10/2009

Ym mis Medi 2009, caeodd Cyngor Sir y Fflint ei dair ysgol arbennig ar gyfer disgyblion o bob oedran ag anghenion dysgu cymedrol, difrifol a dwys/cymhleth, ac yn eu lle agorwyd dwy ysgol arbennig newydd, un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd, wedi eu lleoli'n agos i'w gilydd yn y Fflint.

Drwy ei drefniadau cynllunio strategol a rheoli prosiect mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion arbennig, mae Cyngor Sir y Fflint wedi:

Mae'r ysgol gynradd arbennig newydd, Ysgol Pen Coch, yn rhannu safle ac ardal fynedfa ag ysgol gynradd prif ffrwd sefydledig, tra bod Ysgol Maes Hyfryd, sef yr ysgol uwchradd arbennig newydd, drws nesaf i ysgol uwchradd sefydledig.

Defnyddiodd y Cyngor y Grant Gwella Adeiladau Ysgolion i ariannu ei raglen moderneiddio ysgolion arbennig. Rheolwyd y prosiect yn dda ac fe'i cwblhawyd ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae swyddogion, penaethiaid a staff ar ben eu digon gydag adeiladau ac adnoddau'r ysgolion newydd, ac maent o'r farn bod y prosiect wedi sicrhau gwerth am arian ardderchog.

Enw cyswllt: Jane Kelly 
Ebost: jane_kelly@flintshire.gov.uk