Rhestr Astudiaethau achos

Offer Optimeiddio Foltedd ym Maes Parcio Aml-lawr Llanelli

Cyngor Sir Caerfyrddin

01/09/2011

Roedd y Cyngor wedi nodi y gellid lleihau faint o ynni gâi ei ddefnyddio yn eu Maes Parcio Aml-lawr yn Llanelli. Daeth y wybodaeth am hyn o arolwg a gynhaliwyd yn ystod chwarter cyntaf 2008.

Er mwyn sicrhau hyfywedd y prosiect, gwnaed dadansoddiad manwl o offer, proffil trydan a foltedd y safle. Fe wnaeth arolwg pellach a wnaed gan gyflenwr offer rheoli foltedd arbenigol ategu'r dadansoddiad hwn.

Cafodd yr amcan o ostwng y defnydd ar ynni ei gyflawni drwy osod offer rheoli foltedd. (Mae optimeiddio foltedd yn dechneg arbed ynni trydanol sy'n cael ei gosod mewn cyfres gyda'r prif gyflenwad  trydan i roi'r cyflenwad foltedd gorau posibl i offer y safle. Mae'r rhan fwyaf o offer trydanol yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gynhyrchu i safonau Ewropeaidd, wedi'u dylunio ar gyfer 220V a byddant yn gweithio'n effeithiol i lawr hyd at 200V. Un o'r rhesymau pam mae optimeiddio foltedd mor effeithiol yw mai 242V yw'r foltedd cyfartalog sy'n cael ei gyflenwi gan y Grid Cenedlaethol, ond foltedd y DU mewn enw yw 230V).

Mae'r manteision a gafwyd o'r mesur hwn wedi cynnwys:

Cyflawnwyd arbedion ynni blynyddol o 15.5 y cant (37321 kWh) drwy ostwng foltedd 9 y cant. Cost y prosiect, gan gynnwys cyflenwi a gosod uned 'PowerPerfector' 105kVA, oedd £7,790. Cafodd contractwr trydanol lleol, a oedd eisoes yn gyfarwydd â'r safle, ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn.

Ariannwyd y fenter hon drwy Gyngor Sir Caerfyrddin, gan ddefnyddio Cynllun Benthyciadau Effeithlonrwydd Ynni Salix. At hynny, cyflawnwyd cyfnod ad-dalu o 1.7 mlynedd.

http://www.carmarthenshire.gov.uk

Enw: Andrew Morris
Teitl/rôl: Swyddog Ynni a Chynaliadwyedd Prif Borth
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
E-bost: acmorris@carmarthenshire.gov.uk
Ffôn: 01267 228264