Canllaw i leihau costau


Ynglyn â'r canllaw hwn

Diben y canllaw hwn yw helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r gostyngiadau yn eu cyllid mewn ffordd systemig, rhesymegol. Ein nod sylfaenol yw helpu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i wneud dewisiadau cadarn a synhwyrol ynghylch torri costau gan leihau'r effaith ar bobl gymaint â phosibl, yn enwedig y bobl fwyaf bregus, a gwella gwasanaethau hefyd lle bo hynny'n bosibl.

Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at gynulleidfa amrywiol. Bwriadwn iddo helpu'r bobl sy'n gyfrifol am reoli canlyniadau toriadau: arweinwyr gwleidyddol a rheolwr. Dymunwn fod y canllaw hwn yn helpu'r rheiny sy'n craffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud: gwleidyddion ar bwyllgorau, ac aelodau o fyrddau a phwyllgorau gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, bwriadwn fod grwpiau lleol, dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau'n gallu defnyddio'r canllaw i ymhél â'r broses o gynllunio a chyflwyno ymateb effeithiol i doriadau yng nghyllideb y sector cyhoeddus, a chyfrannu at y broses.

Pam ydym ni'n lansio'r canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn yn rhan o'n gwaith Effeithlonrwydd ac Arloesedd ehangach, gan gynnwys  Y Gyfnewidfa Arfer Da. Hefyd, rydym wedi gweithio'n agos â'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesedd sy'n cwmpasu'r sector cyhoeddus cyfan. Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol Arsyllwr gyda'r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesedd ac roedd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd pob un o'r ffrydiau gwaith. Bellach, mae'r Rhaglen wedi dod i ben, ond rydym yn bwriadu parhau i weithio'n agos â'r Grwp Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus, a fydd yn parhau â gwaith y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesedd.

I ddysgu mwy am bwrpas y canllaw hwn, a sut y gallai fod o help i chi, cliciwch yma.

*Noder for rhai o'r dolenni yn cysylltu â gwefannau a dogfennau Saesneg yn unig.

Fframwaith i leihau costau

Rydym wedi creu'r model canlynol sydd, yn ein tyb ni, yn fodel aeddfed, systemig a chyfranogol ar gyfer lleihau cost, gyda ffocws cyson ar werth, deilliannau a gwelliant.

Cliciwch ar bob cylch i ddysgu mwy am bob pwynt.

Fframwaith i leihau costau

*Noder for rhai o'r dolenni yn cysylltu â gwefannau a dogfennau Saesneg yn unig
*