Pennu maint y broblem ariannol

Ymgysylltu a deall

Gweithio ar y cyd i ennill dealltwriaeth o raddfa'r broblem a beth yw'r flaenoriaeth ar gyfer ei datrys

 

I ddatblygu ymateb hirdymor cynaliadwy, bydd angen dealltwriaeth  gynhwysfawr o'r broblem arnoch. Nid yw gwybod am y newid mewn cyllidebau rhwng y flwyddyn ariannol flaenorol a phresennol yn ddigon. Mae angen i chi fwrw golwg sylfaenol 'ar sail sero' ar eich sefyllfa ariannol. Bydd angen gwybodaeth ariannol dda arnoch ar gyfer eich busnes craidd yn ogystal ag ar gyfer unrhyw is-bartneriaethau cyhoeddus/preifat y mae gennych fudd posibl ynddynt. Hefyd, da o beth yw meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'ch ffynonellau incwm er mwyn penderfynu pa ffynonellau incwm sydd dan fygythiad, a pha rai y gellir eu hymestyn a'u datblygu.

Pan fydd y wybodaeth hon gennych, dechreuwch ragweld a modelu ar sail y darlun presennol a'r dyfodol a ragwelir, ac ystyriwch iechyd ariannol partneriaid allweddol a sefydliadau y mae gennych fudd ynddynt, a'u risgiau; gallent droi atoch chi mewn cyfnod o angen. Mae'n werth cadarnhau graddau eu risg ariannol.

Dychwelyd i'r brif dudalen

Ymlaen i'r dudalen nesaf

Yn ôl i'r dudalen flaenorol

 

Rhestr Wirio Cynllunio Ariannol Hirdymor

Mae Adran Cyfarwyddwyr Cyllid CIPFA wedi cyhoeddi rhestr wirio o arfer dda sy'n ymwneud â chynllunio ariannol hirdymor. Rhywbeth i brocio'r cof yw'r rhestr wirio, sy'n cynnig man cychwyn ar gyfer ymgorffori cynllunio ariannol hirdymor ymhlith awdurdodau lleol yr Alban. Nid oes methodoleg gydnabyddedig unigol, nac un sy'n cael ei ffafrio, ond mae'r rhestr wirio'n crynhoi'r hyn sy'n cael ei ystyried yn arfer da ac mae'n cynnig arweiniad ymarferol i uwch staff cyllid a chynllunio adnoddau yn yr Alban.

http://www.cipfa.org.uk/scotland/LTFinancialPlanning.cfm

*