Bod yn strategol ac yn realistig

Diffinio'r opsiynau


Mae'n bwysig bod yn realistig ynghylch lefel yr arbedion y gellir eu cyflawni. Mae cydbwysedd i'w daro rhwng angen bod yn feiddgar ac uchelgeisiol a realaeth ynghylch anhawster cyflwyno newid. Gall arbedion sy'n ddichonadwy yn ddamcaniaethol fod yn anodd i'w cyflawni yn ymarferol. Hefyd, mae'n bwysig peidio ag anghofio bod costau cyn cychwyn weithiau ynghlwm wrth wneud yr arbedion. Bydd angen i chi fod yn hollol glir ynghylch y costau ynghyd â'r arbedion. Mae Canllaw'r Trysorlys Appraisal and Evaluation in Central Government - y 'Llyfr Gwyrdd', yn rhoi cyngor manwl ar nodi costau a buddion mewn gwasanaethau cyhoeddus, prosiectau a rhaglenni.

Mae'r Llyfr Gwyrdd yn nodi bod tuedd gan bobl o blaid yr hyn sy'n cael ei alw'n 'duedd optimistaidd'. Yn eu hanfod, mae pobl yn tueddu i ragweld y bydd eu menter yn arbed mwy o arian nag y mae'n ei wneud, y bydd ei chost yn llai ac y caiff ei chyflwyno'n gynt. Mae'n bwysig addasu ac ystyried y duedd hon. Gall bod yn oruchelgeisiol, yn enwedig o ran arbedion effeithlonrwydd, gael canlyniadau difrifol. Os nad yw'r arbedion hynny'n cael eu cyflawni, yna mae'n bosibl y bydd rhaid i sefydliadau wneud arbedion mewn ffordd sydd heb ei chynllunio na'i strwythuro, mewn cyfnod byr iawn - efallai'r math o doriadau adweithiol sy'n gwneud y niwed mwyaf.

Hefyd, mae'n bwysig ymgymryd â dull strategol. Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a'r Comisiwn Archwilio Becyn Cymorth Effeithlonrwydd ar gyfer heddluoedd yn ddiweddar. Yn hwnnw, fe wnaethom nodi tri dull o sicrhau arbedion: Trafodol, Trosiannol a Thrawsnewidiol. Dylai fod nod i sefydliadau symud tuag at ddull trawsnewidiol, pan fydd ganddynt ddull strategol lle daw effeithlonrwydd a gwelliant yn rhan o waith bob dydd. Ond, mae hynny'n cymryd amser. Er ei fod wedi'i gynllunio i heddluoedd, gallai gwasanaethau cyhoeddus eraill fwrw golwg ar y pecyn cymorth er mwyn gwneud eu hasesiad eu hunain o'u safle yn y continwwm hwn. Gall gwybod lle rydych chi arni helpu i ychwanegu ymdeimlad o realaeth - gall fod yn afrealistig i sefydliad ddisgwyl symud o ddull trafodol ad hoc i fod yn drawsnewidiol ac ailffurfio'i wasanaethau a'i ddiwylliant yn llwyr mewn cyfnod byr iawn. 

Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy. PDF

 

Dychwelyd i'r brif dudalen

Ymlaen i'r dudalen nesaf

Yn ôl i'r dudalen flaenorol

*