Ymgysylltu â'r gymuned i esbonio pam bod y penderfyniadau wedi'u gwneud

Meddu ar arddeliad

Mae papur diweddar o'r enw 'Stepping up' gan Forum for the Future, yn nodi nifer o gamau allweddol a dyma un o'r rhain.

"Paratowch ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd - os ydych o'r farn bod consensws yn cymryd amser ac yn anodd, rhowch gynnig ar wrthdaro! Rhaid i chi feithrin gallu'r staff i ymgysylltu â rhanddeiliaid a dod â'ch rhanddeiliaid ar y daith gyda chi."

Cyn rhoi atebion ar waith, sicrhewch eich bod wedi esbonio i'r cyhoedd ac i'ch staff pam rydych chi wedi gwneud y penderfyniadau hyn. Nid oes angen codi bwganod, felly byddwch yn glir ac yn realistig. Paratowch y sefydliad a'ch partneriaid ar gyfer newid, ond byddwch yn eglur ynghylch pa newidiadau sy'n dod. Yn y pen draw, gall y bobl yr ydych heb ymgysylltu â nhw fynd yn atalwyr, a gall y rhai yr ydych wedi ymgysylltu â nhw ddod yn eiriolwyr neu hyd yn oed yn gyfranwyr. Mae treulio amser yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl o werth os ydych yn hwylio yn erbyn y llif.

"Dylech hyrwyddo canlyniadau ymgynghori ac esbonio beth sydd wedi digwydd o ganlyniad. Peidiwch â chilio rhag siarad am benderfyniadau amhoblogaidd neu ddadleuol." Asiantaeth Gwella a Datblygu (IDEA) Llywodraeth Leol.

Dychwelyd i'r brif dudalen

Ymlaen i'r dudalen nesaf

Yn ôl i'r dudalen flaenorol

Rhai dolenni a deunyddiau defnyddiol

*IDEA 'Community Engagement'

*Cutbacks and communications

*Better Together - Preparing for local spending cuts to the voluntary, community and social enterprise sector

*Changingminds.org, casgliad ar-lein o syniadau ynghylch rheoli, a deunyddiau ar wrthwynebu newid

*http://changingminds.org/disciplines/change_management/resistance_change/resistance_change.htm

*