Dysgu ac addasu

Monitro, Dysgu ac Addasu

Yn hollbwysig....Dangoswch a dathlwch lwyddiant, dyma daith anodd; byddwch chi, eich staff, rhanddeiliaid a phartneriaid oll yn haeddu clod.

"Gallwch gyflawni unrhyw beth mewn bywyd, ar yr amod nad oes ots gennych pwy sy'n cael y clod." Harry S Truman

Nid yw monitro'r sefyllfa yn unig yn ddigon. Os ydych o'r farn bod angen i chi wneud newidiadau, gwnewch nhw. Nid yw pethau bron byth yn digwydd yn ôl yr hyn a gynlluniwyd ac mae'n bwysig parhau i ddiweddaru cynlluniau a chymryd camau unioni yng ngoleuni profiad.

O ystyried maint yr her y mae eich sefydliad chi a sefydliadau sector cyhoeddus eraill wedi'i wynebu ac yn parhau i'w wynebu, dylid datblygu dulliau da fel y gallwch ddysgu o'ch profiad chi a phrofiadau sefydliadau eraill. Er mai'r dysgu gorau yw'r dysgu a wnewch o'ch camgymeriadau eich hun, mae'n ddoeth dysgu oddi wrth eraill hefyd! 

Dewch hyd i'r amser a'r gallu i fyfyrio, dysgu, addasu a mireinio. Edrychwch ar becyn cymorth Sefydliad y GIG er Arloesi a Gwella Learning from change. Hefyd, mae'n dda cwblhau'r cylch a sicrhau bod dysgu'n cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, os yw'n dod i'r amlwg bod mathau penodol o arbedion yn anos eu cyflawni nag a feddyliwyd yn y lle cyntaf, dylid cyfrif am hyn mewn cynlluniau arbed arian ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dychwelyd i'r brif dudalen

Yn ôl i'r dudalen flaenorol

*