|
|
| Lwfansau Aelodau A Thaliadau Cydnabyddiaeth Swyddogion Cyngor Caerdydd |
| 24/04/2006 |
| Yr Archwilydd Penodedig yn cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd |
|
Gweithredodd Cyngor Sir Caerdydd yn anghyfreithlon a methodd â gweithredu gyda thryloywder neu mewn modd atebol pan weithredodd gynyddiadau mewn Lwfansau i Aelodau a thaliadau cydnabyddiaeth i swyddogion, yn ôl yr Archwilydd Penodedig, Janet Jones. Mae ei hadroddiad er budd y cyhoedd, a gyhoeddwyd heddiw, yn beirniadu'r Cyngor am beidio â chyrraedd y safonau ymddygiad yr oedd gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl.
Mae'r adroddiad yn nodi manylion gwariant anghyfreithlon o dros £2.7 miliwn mewn Lwfansau i Aelodau rhwng mis Chwefror 1996 a mis Hydref 2001 a gwariant anghyfreithlon pellach o £75,250 mewn cynyddiadau i daliadau cydnabyddiaeth i swyddogion yn 1999. Fodd bynnag, heblaw am y ffaith i’r Cyngor gynyddu Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig rhyw £152,752 a hynny’n gynnydd afresymol, mae’n gywir dweud bod gan y Cyngor hawl i osod Lwfansau Aelodau ar y lefel a wnaeth ar ôl dilyn gweithdrefnau priodol gan gynnwys cyhoeddi’r hyn a wnaed ar gost y trethdalwyr lleol. Prif bryderon yr Archwilydd Penodedig ynglyn â Lwfansau Aelodau yw:
Mae'r Archwilydd Penodedig yn feirniadol o gynyddiadau afresymol mewn Lwfansau i Aelodau, a amrywiodd o 44% i 74% dros gyfnod 3 blynedd gan arwain at drin rhai aelodau yn anghyfartal. Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â gofyniad statudol i lunio cynllun o Lwfansau Aelodau sydd ar gael yn gyhoeddus, ond hefyd methodd, yn groes i'w ddyletswydd statudol, â chyhoeddi cynyddiadau mewn Lwfansau i Aelodau. Cynyddwyd rhai Lwfansau i Aelodau a rhai taliadau cydnabyddiaeth i swyddogion, ond ni ddatgelwyd hwy i'r Aelodau yn gyffredinol; ac awdurdodwyd cynyddiadau mewn taliadau cydnabyddiaeth i swyddogion gan swyddogion heb gyflwyno adroddiad ar hynny i’r Cyngor nac i unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau’r Cyngor. Mae'r Archwilydd Penodedig yn falch bod setliad gyda'r Cyngor yn 2004 wedi osgoi costau sylweddol gwrandawiad yn yr Uchel Lys a fyddai wedi parhau am bythefnos (gweler Nodiadau i Olygyddion). Ond mae'n feirniadol fod y Cyngor wedi mynnu gwrthwynebu ei chanfyddiadau am dair blynedd ar gost sylweddol i'r cyhoedd. Roedd hyn, meddai, yn golygu nad oedd dim dewis arall ond i ddechrau achos llys. Nid yw'r Archwilydd Penodedig yn awgrymu i unrhyw Aelod neu swyddog weithredu'n anonest nac mewn unrhyw fodd nad yw’n ddidwyll. Ond yn ei barn hi nid oedd ymddygiad rhai cystal ag y dylai fod wedi bod, a phrin y gall yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar y pryd synnu bod eu hymddygiad yn destun beirniadaeth gyhoeddus. Ymysg argymhellion yr adroddiad, ceir galwadau i'r Cyngor:
sicrhau y gwneir penderfyniadau mewn perthynas â'i gynllun Lwfansau Aelodau yn hollol unol â gofynion cyfreithiol, penderfyniadau a wneir yn gyhoeddus, a gofnodir ac sy'n cael cyhoeddusrwydd dyladwy; cadw cofnodion cywir o'r holl daliadau a wneir i Aelodau, er mwyn sicrhau bod modd olrhain pob trafodyn; a Mae'r Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion hyn ac wedi gwella gweithdrefnau. Mae hefyd wedi dechrau adolygiad llywodraethu corfforaethol o dan gadeiryddiaeth Syr Michael Lyons. Fodd bynnag, mae Janet Jones yn rhybuddio nad yw systemau a phrosesau da yn ddigon ynddynt eu hunain ac mae eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar y ffordd y cânt eu gweithredu. Dywedodd Yr Archwiliwr Penodedig, Janet Jones, heddiw:
Nodiadau i Olygyddion:
|