|
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn argymell gwelliannau i fframwaith asesu Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella
Hyblygrwydd yw un o fanteision y system bresennol ar gyfer asesu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond mae hynny’n ei wneud yn anodd dangos gwelliannau mewn modd cyson, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman. Mae ei Adroddiad Blynyddol 2004/2005 Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, a gyhoeddir heddiw, yn nodi bod rhai arwyddion da o wella, ond mae’n cyflwyno darlun cymysg o’r ffordd y mae awdurdodau yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau.
Canfu’r adroddiad, sy’n edrych ar lwyddiant cyffredinol fframwaith Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, y bu ei hyblygrwydd yn allweddol wrth sicrhau ymrwymiad i’r fframwaith. Fodd bynnag, gan fod awdurdodau lleol yn datblygu ac yn defnyddio’r dulliau asesu risg sydd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion unigol, mae’n anodd i’w hasesu yn yr un modd, a bron yn amhosibl i’w cymharu â’i gilydd mewn modd cyson.
Gwneir nifer o argymhellion i wella’r system, yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru i gyflwyno fframwaith ar gyfer ‘safonau gwasanaeth gofynnol’– i helpu sicrhau y caiff yr holl faterion allweddol o ran gwasanaethau a swyddogaethau eu hystyried yn yr un modd.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn disgwyl cyfrannu at y broses o ddatblygu’r safonau gwasanaeth gofynnol hyn. Bydd hefyd yn datblygu ymhellach ei ddull ar gyfer nodi a rhannu arfer da ar draws llywodraeth leol.
Yn gyffredinol, casgliad yr adroddiad yw bod fframwaith Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, fel y mae, yn cael ei weithredu’n briodol. Canfu’r adroddiad fod y rhan fwyaf o awdurdodau wedi gwella eu Hasesiadau Risg ar y Cyd, er fe erys perchnogaeth ac ymrwymiad yn broblem mewn rhai awdurdodau.
Daw’r adroddiad hefyd i’r casgliad bod y risgiau sy’n gysylltiedig â nifer o weithgareddau wedi lleihau’n gyffredinol. Dyma yw’r achos yn benodol mewn perthynas â: • y trefniadau gwleidyddol sydd ar waith i gefnogi atebolrwydd democrataidd a gyflwynwyd yn sgîl etholiadau lleol 2004; • y trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad gwasanaethau.
Fodd bynnag, ceir risg uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol mewn rhai meysydd allweddol, yn cynnwys: • e-Lywodraeth: lle mae awdurdodau yn cynyddu nifer y gwasanaethau a ddarperir ar ffurf electronig. • Gweithio mewn partneriaeth: wrth i awdurdodau chwilio am ddulliau mwy arloesol a chydweithredol o weithio gyda sefydliadau eraill i wella’u gwasanaethau. • Y graddau y mae gwasanaethau yn rhoi sylw i anghenion cwsmeriaid.
Yn gyffredinol, mae risgiau gwasanaeth yn lleihau a pherfformiad yn gwella. Mae rhai o’r meysydd penodol sy’n peri pryder yn cynnwys: • Gwasanaethau cymdeithasol: Ystyriwyd y ddarpariaeth ar gyfer oedolion fel risg ganolig yn y rhan fwyaf o awdurdodau, er bod perfformiad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gwella yn sylweddol. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol plant yn risg uchel yn gyffredinol ymhob awdurdod. • Rheoli gwastraff: Un o’r meysydd gyda’r risg uchaf – gyda thargedau o’r Strategaeth Wastraff Genedlaethol a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi yn gosod heriau. • Adfywio: Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn arwain neu yn cyfrannu at ystod eang o brosiectau sy’n ymestyn eu sgiliau a’u gallu i ddarparu gwasanaethau. • Tai: Maes risg uchel ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau, yn arbennig o ran bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 a’r Strategaeth Ddigartrefedd ddiwygiedig. • Parciau Cenedlaethol: Mae gwasanaethau wedi gwella neu wedi eu cynnal ar yr un safon, ond mae lle i’r tri awdurdod parc cenedlaethol wella ansawdd ac amseroldeb eu gwasanaethau.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: “Mae'n galonogol gweld y rhan fwyaf o awdurdodau yn cymryd rhan weithredol yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella a’u bod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau ar gyfer dinasyddion. Ond cyfyngir ar effeithiolrwydd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella gan brinder mesuriad safonol. Mae argymhellion yr adroddiad yn ceisio mynd i’r afael â hyn”.
Nodiadau i Olygyddion:
• Sefydlwyd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ym mis Ebrill 2002 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac, ynghyd â Swyddfa Archwilio Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru, hon yw’r cyfrwng o ysgogi a chefnogi newid a gwella mewn cynghorau yng Nghymru.
• Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn seiliedig ar asesiad risg o feysydd gwasanaeth a swyddogaethau corfforaethol a ddatblygwyd ar y cyd gan yr awdurdod a’i reoleiddwyr, sydd, yn ei dro, yn llywio Cynllun Gwella’r awdurdod.
• Mae Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â rheoleiddwyr eraill, yn ystyried yn flynyddol, y cwestiwn p’un a yw canlyniadau’r broses Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn dangos bod awdurdodau lleol yn cyflawni gwelliannau parhaus a ph’un a ydynt yn cymhwyso fframwaith Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn briodol.
• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Wasg) ar 02920 262 675 neu drwy e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk
|