Mae cofnodi troseddau'n gywir yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr heddlu'n cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy ac amserol i'w helpu i dargedu adnoddau'n effeithiol a rhoi'r flaenoriaeth i ddioddefwyr a thystion.
Bydd adroddiad ar y cyd, a gyhoeddir heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Comisiwn Archwilio, yn ystyried pa mor dda y mae'r 43 o heddluoedd ac awdurdodau'r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cofnodi data am droseddau ac yn cymharu eu perfformiad dros y tair blynedd ddiwethaf. Canfu
fod y rhan fwyaf o heddluoedd ac awdurdodau yn bodloni'r safonau cofnodi trosedd ac mae gan bob un ohonynt, ac eithrio dau, drefniadau rheoli digonol ar waith i gynnal a gwella cydymffurfiaeth. Yng Nghymru, mae pob heddlu ac awdurdod wedi dangos gwelliannau.
Adolygwyd heddluoedd ac awdurdodau heddlu yn erbyn y Safon Cofnodi Trosedd Genedlaethol (NCRS) a Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Archwiliodd yr adrodd hefyd y ffordd y mae lluoedd ac awdurdodau yn rheoli'r broses er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a'r safonau. Dosbarthwyd pob heddlu ac awdurdod yn un o'r graddau canlynol: "gwael", "gweddol", "da" neu "ardderchog".
Canfu'r adroddiad fod heddluoedd ac awdurdodau'r heddlu yn cofnodi o leiaf 80 y cant o ddata am droseddau'n gywir. Bu i 35 ohonynt fodloni'r gofyniad cofnodi trosedd gofynnol o 90 y cant o gywirdeb er mwyn cael gradd "da" neu "ardderchog". Mae hyn yn cymharu â 24 (56 y cant) yn 2004 a 12 (28 y cant) ym mlwyddyn gyntaf yr adolygiadau.
Mae gwelliant yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn sylweddol, ond mae meysydd o bryder o hyd. Cafodd dau heddlu radd "gwael" am eu trefniadau rheoli ac mae nifer fach wedi gwaethygu neu wedi methu â gwella ers yr adolygiad diwethaf. Dim ond un
heddlu a gafodd "ardderchog" am ansawdd data a threfniadau rheoli. Yn ogystal â hyn, mae pum heddlu yn dibynnu ar dechnegau gwirio data sy'n ddrud ac yn cymryd llawer o amser, yn hytrach na chofnodi'r drosedd yn gywir y tro cyntaf.
Mae cofnodi trosedd yn iawn yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl. Mae heddluoedd sy'n cymryd camau priodol yn gywir i gofnodi trosedd, fel bwrgleriaeth, ymosodiad treisgar neu drais yn y cartref, pan hysbysir yr heddlu neu'r awdurdodau ohono, yn llawer mwy tebygol o allu diogelu'r dioddefwr rhag niwed yn y dyfodol.
Mewn heddluoedd gyda threfniadau rheoli "da" neu "ardderchog", bydd yn hawdd i ddioddefwyr a thystion gysylltu â'r heddlu a chânt y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y broses. Bydd arolygon boddhad yn rhoi gwybodaeth i heddluoedd am batrymau cwyno a phrofiad dioddefwyr a thystion fel y gall heddluoedd nodi meysydd sy'n achosi problemau ac ymateb i'r problemau hynny.
Mae heddluoedd gwannach yn methu â dychwelyd galwadau gan y cyhoedd, na darparu gwybodaeth neu wneud ymweliadau dilynol fel yr addawyd. Mewn rhai achosion, fel ar adegau prysur, gall dioddefwyr ei chael hi'n anodd cysylltu â'r heddlu o gwbl.
Mae gwelliant cyffredinol wedi bod mewn trefniadau rheoli i gefnogi ansawdd data. Cafodd 29 o heddluoedd (67 y cant) radd "da" neu "ardderchog" ar gyfer trefniadau rheoli yn 2005 o gymharu ag wyth (19 y cant) yn 2004 a phedwar (9 y cant) yn 2003. Mae dau heddlu â gradd "gwael" o gymharu â saith yn 2003 a 2004.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kirsty Keogh yn y Comisiwn Archwilio ar 0207 166 2262 neu anfonwch e-bost at k-keogh@audit-commission.gov.uk.
Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i Gymru, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Archwilio Cymru ar 029 2026 2673 neu anfonwch e-bost at lisa.smyth@wao.gov.uk