|
Mae safonau rheoli ariannol yn sectorau'r GIG a llywodraeth ganolog Cymru yn parhau i fod yn dda, ar y cyfan, ac yn parhau i wella, yn ôl adroddiad cryno blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol ar eu cyfrifon. Ond, mae'r adroddiad yn galw am welliannau i reolaethau dros wariant grant, rheoli asedau a safonau talu.
Mae'r adroddiad yn crynhoi cyfrifon 2004/2005 Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gyrff cysylltiedig. Ac, am y tro cyntaf eleni, mae'n cynnwys cyfrifon cyrff lleol y GIG yng Nghymru - er mwyn adlewyrchu rôl newydd yr Archwilydd Cyffredinol fel archwilydd allanol statudol y cyrff hyn. Mae'r adroddiad hefyd yn cwmpasu gwaith ariannol arall a wnaed yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys yr archwiliad o brosiectau a ariennir gan Ewrop.
Yn gyffredinol, canfu'r adroddiad fod cyfrifon yn cael eu paratoi yn fwy prydlon a bod trefniadau gwell ar gyfer rheoli ariannol. Mae cyrff llywodraeth ganolog yn gwneud cynnydd da o ran rheoli risg a gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a cheir arwyddion bod systemau rheoli ariannol prosiectau a ariennir gan yr UE yn gwella. Yn ogystal, mae Gwerth Cymru yn parhau i helpu i sicrhau gwerth gwell am arian o broses gaffael y sector cyhoeddus - gan nodi arbedion gwirioneddol o £18 miliwn yn 2005.
Disgrifia'r adroddiad y modd y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ategu ei waith y flwyddyn nesaf ag adolygiadau sy'n seiliedig ar risg. Nod y gwaith hwn yw sicrhau na fydd lleihad yn y graddau craffu ariannol a gymhwysir at rai meysydd gwariant yn dilyn diwygiadau strwythurol y Cynulliad, megis cyfuno cyrff a noddwyd yn flaenorol â Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw,
"Mae fy adroddiad yn amlygu arwyddion calonogol o welliant, ond, yn sicr, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Bydd angen i holl gyrff llywodraeth ganolog a'r GIG weithredu ar fy argymhellion o ran systemau rheolaeth, er mwyn sicrhau y cynhelir safonau. Mae diwygiadau strwythurol diweddar yng Nghymru yn rhoi hyd yn oed mwy o werth ar argaeledd gwybodaeth reoli gadarn i wneud iddynt weithio".
Nodiadau i Olygyddion:
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canlyniadau gwaith archwilio ariannol yr Archwilydd Cyffredinol sy'n ymwneud â chyfrifon 2004/2005 y Cynulliad Cenedlaethol a'i gyrff cyhoeddus cysylltiedig ac, am y tro cyntaf eleni, gyfrifon cyrff lleol y GIG yng Nghymru hefyd.
Mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol archwilio ac ardystio cyfrifon blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyrff cyhoeddus a noddir ganddo a rhai cyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys sefydliadau lleol y GIG yng Nghymru, a chyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau ei archwiliad a'i farn archwilio i'r Cynulliad.
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2004/2005, bu i'r Archwilydd Cyffredinol archwilio 65 o gyfrifon o fewn sectorau'r GIG a llywodraeth ganolog. Roedd y cyfresi amrywiol o gyfrifon blynyddol, gyda'i gilydd, yn cynnwys gwariant o tua £11.9 biliwn a ariannwyd gan gyllideb bloc Cymru.
Nid yw'r adroddiad yn ymdrin yn fanwl â gwaith archwilio perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2673 neu drwy'r e-bost lisa.smyth@wao.gov.uk
|