The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Yr archwilydd cyffredinol i arwain ymchwiliad i Wasanaethau Ambiwlans yng Nghymru
11/07/2006
Jeremy Colman I adolygu’r Ymddiredolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, yn cadarnhau heddiw ei fod wrth ei fodd i dderbyn gwahoddiad y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Pasiwyd y cynnig yn swyddogol gan y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.

Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio nifer o faterion a wnelo â’r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd safonau perfformiad, strwythurau, materion staffio, pwysau ariannol a phwysau o ran adnoddau. Bydd hefyd yn ymchwilio i’r goblygiadau i’r dyfodol ac yn gwneud argymhellion yn unol â hynny. Mae Mr Colman yn gobeithio cyhoeddi adroddiad yn yr hydref.

Yn unol â dymuniad y Cynulliad am amserlen gyflym, bydd Mr Colman yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy’n rhoi mynediad i gofnodion yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru iddo. Bydd yn gwahodd partïon â diddordeb, yn ymestyn o glinigwyr i undebau llafur, i ddarparu tystiolaeth a bydd yn cynnal nifer o wrandawiadau cyhoeddus ledled Cymru.

Cefnogir yr ymchwiliad gan dîm o arbenigwyr ariannol a pherfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru a chaiff ei integreiddio’n agos gyda’r adolygiad arbennig o’r ymddiriedolaeth a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Mai.

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn cymryd i ystyriaeth nifer o adolygiadau penodol o’r Ymddiriedolaeth sydd ar y gweill. Mae’r rhain yn cynnwys archwiliad ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o gaffaeliad y llynedd o fflyd o ambiwlansys, a gwaith gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar wasanaethau Cludiant Cleifion a weithredir gan yr Ymddiriedolaeth, eu trefniadau Llywodraethu Clinigol

cyffredinol ac yn benodol ar honiadau bod 500 o farwolaethau y gellir eu hosgoi’n digwydd o ganlyniad i’r ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, heddiw:

"Bydd fy ymchwiliad yn edrych ar y dystiolaeth ar yr hyn y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud yn dda a ble y mae angen iddo wneud yn well. Bydd yn profi cadernid y cynlluniau cyfredol ac yn asesu’r rhwystrau i welliant. Mae gan reolwyr newydd y Gwasanaeth Ambiwlans gynlluniau uchelgeisiol i weddnewid ei berfformiad ac fe ddylai fy nghanfyddiadau helpu i’w cefnogi wrth droi’r cynlluniau hynny’n wirionedd."

Meddai Prif Weithredydd Arolygaeth Gofal Cymru, Peter Higson,

"Mae Arolygaeth Gofal Cymru mewn lle da i gydweithredu gyda’r ymchwiliad hwn a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Archwilydd Cyffredinol i nodi ffyrdd o wella’r Gwasanaeth Ambiwlans i lawn ateb anghenion pobl yng Nghymru. Cyhoeddir yr adroddiad ar ddiwedd ein hadolygiad a bydd hefyd yn ffurfio rhan o adroddiad terfynol yr Archwilydd Cyffredinol."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwiliad blynyddol o ryw £19 biliwn o wariant archwilio cyhoeddus.
  • Ei chenhadaeth yw hyrwyddo gwelliant, fel y gall pobl yng Nghymru elwa ar wasanaethau atebol, a reolir yn dda, sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd wedi ymrwymo i nodi a lledaenu arferion da ar draws sector cyhoeddus Cymru.
  • Sefydlwyd Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) ar 1 Ebrill 2004 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan delerau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Mae’n uned annibynnol o fewn y Cynulliad gyda phwerau wedi’u dirprwyo i gael mynediad i chwilio eiddo o dan adran 72(1) Deddf 2003, ynghyd â hawliau eraill, gan gynnwys yr hawl i archwilio a chymryd copïau o ddogfennau a chyfweld â phersonau a nodir yn adran 73 y Ddeddf.
  • Cyfrifoldeb craidd HIW yw darparu sicrwydd annibynnol am ansawdd a diogelwch gofal a gyllidir gan GIG Cymru ac i gefnogi ei welliant parhaus. Wrth wneud hyn, mae’n cynnal adolygiadau o argaeledd a mynediad i ofal iechyd; ansawdd ac effeithiolrwydd gofal iechyd a rheolaeth gofal iechyd a darbodusrwydd ac effeithlonrwydd y ddarpariaeth ohono: y wybodaeth a ddarperir i’r cyhoedd ac i gleifion am ofal iechyd a; hawliau a lles plant.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu anfonwch e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk

<< Previous article Next article >>