The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Rhaid I Gymru Wella Ei Chyfraddau Llawdriniaeth Ddydd
07/09/2006
‘Cyfleoedd clir i ymdrin â’r rhwystrau i wella’ meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru
Yn ôl Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyffredinol mae cyfraddau llawdriniaeth ddydd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr ac yn sylweddol is na’r lefelau y derbynnir eu bod yn gyraeddadwy. Mae ei adroddiad: Making better use of NHS day surgery in Wales yn nodi cyfleoedd eglur i waredu rhwystrau dianghenraid at gynyddu llawdriniaeth ddydd. Mae’n gwneud synnwyr defnyddio llawdriniaeth ddydd gymaint ag sy’n glinigol briodol: mae arhosiad byrrach yn yr ysbyty yn well i gleifion ac yn rhatach i’r GIG.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn dangos bod llawdriniaeth ddydd, lle bo’n glinigol briodol, yn lleihau’r risg o heintiau a ddelir mewn ysbytai ac yn lleihau hyd arhosiad claf yn yr ysbyty. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod manteision llawdriniaeth ddydd ond, er gwaethaf cynnal sawl menter, ni chafwyd unrhyw strategaeth a fynegwyd yn eglur i wella’r cyfraddau llawdriniaeth ddydd. Ceir hefyd amrywiadau mawr o ran perfformiad llawdriniaeth ddydd rhwng ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ac yn y ffyrdd y mae ymddiriedolaethau yn cofnodi llawdriniaeth arhosiad byr.

Nid yw arweinwyr allweddol mewn cymunedau iechyd yn canolbwyntio digon ar wella cyfraddau llawdriniaeth ddydd. Er enghraifft, ychydig iawn o Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) sy’n cynnig cymhelliannau neu sancsiynau i annog llawdriniaeth ddydd fel rhan o’u strategaethau comisiynu, ac nid oes unrhyw gymhelliant ariannol i ddarparwyr newid patrymau cyflwyno gwasanaeth.

Mae’n hanfodol bod ymddiriedolaethau GIG yn gweithredu prosesau a gynllunnir i gefnogi cyflwyno llawdriniaeth ddydd yn ddiogel. Fodd bynnag, nid yw prosesau allweddol bob tro yn gyson ag arfer da hysbys. Er enghraifft, er bod gan rai ymddiriedolaethau brotocolau sy’n cefnogi meddygon teulu i gyfeirio cleifion at wasanaethau llawdriniaeth ddydd, nid yw ymddiriedolaethau eraill yn gwneud hynny. A dim ond monitro cyfyngedig a wneir gan BILlau ar briodoldeb cyfeiriadau gan feddygon teulu.

Nid yw cyfleusterau yn rhwystr mawr i gynyddu llawdriniaeth ddydd ym mwyafrif yr ymddiriedolaethau. Fodd bynnag, mae’r ffordd y defnyddir gwelyau, digonolrwydd ardaloedd gwella ac oriau agor unedau llawdriniaeth ddydd yn cyfyngu ar nifer y cleifion sy’n derbyn y driniaeth hon. Rheswm arall dros aneffeithlonrwydd yn nefnydd rhai unedau llawdriniaeth ddydd pwrpasol yng Nghymru yw’r ffaith eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithdrefnau amhriodol. Er enghraifft, yn aml, defnyddir theatrau sydd wedi’u cyfarparu’n llawn ar gyfer llawdriniaeth fân ac endoscopïau nad oes arnynt angen anaesthetig cyffredinol. 

Mae nifer o ddatblygiadau diweddar sydd â’r potensial i gefnogi gwelliannau pellach mewn cyfraddau llawdriniaeth ddydd. Er enghraifft, disgwylir y bydd asesiad moderneiddio diweddar gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn darparu ffynhonnell bellach o arfer da yn y maes hwn. Hefyd, mae strategaeth Cynllun Oes Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys targedau uchelgeisiol ar gyfer 2015 sy’n berthnasol i lawdriniaeth ddydd, yn enwedig ei darged y dylai 85 y cant o gleifion aros yn yr ysbyty am lai na 48 awr. Er 2003/2004, mae rhai ymddiriedolaethau GIG hefyd wedi cymryd camau penodol i wella eu prosesau a chynyddu cyfraddau llawdriniaeth ddydd (gweler Nodiadau i Olygyddion).

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach sy’n ymwneud â phum maes newid allweddol - strategaeth, arweinyddiaeth, pobl, gallu a phrosesau. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Dylai Llywodraeth y Cynulliad fesur llawdriniaeth arhosiad byr ar draws ystod ehangach o weithdrefnau;
• Ar y cyd, dylai BILlau ddatblygu ymagwedd gomisiynu sy’n cynnig cymhellion ariannol cryfach ar gyfer llawdriniaeth ddydd;
• Dylai ymddiriedolaethau GIG gynnwys llawdriniaeth ddydd yn rheolaidd o fewn arfarniad perfformiad staff perthnasol; a
• Dylai ymddiriedolaethau GIG fonitro nifer y cleifion y trefnir iddynt gael llawdriniaeth ddydd ond a dderbynnir y diwrnod blaenorol am resymau anghlinigol, ac ymchwilio i’r rhesymau am y fath arosiadau dros nos dianghenraid.

Dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:
“Nid yw cyfraddau llawdriniaeth ddydd yng Nghymru mor uchel ag y gallant fod. Nod fy argymhellion yw hyrwyddo gwelliant fel bod manteision llawdriniaeth ddydd i gleifion a’r GIG yn cael eu sylweddoli’n llawn.” 

Nodiadau i Olygyddion:

• Yn yr adroddiad hwn, ystyr ‘llawdriniaeth ddydd’ yw llawdriniaeth a gynllunnir ymlaen llaw lle derbynnir y claf a’i ryddhau'r un diwrnod. Mae hefyd yn ymdrin â llawdriniaeth a gynhelir dros gyfnod o 24 awr, ond nad yw o reidrwydd ar yr un diwrnod (a gaiff ei hadnabod fel llawdriniaeth 23 awr 59 munud).

• Mae’r adroddiad yn archwilio a yw GIG Cymru wedi gwneud digon i ymdrin â’r rhwystrau drwy optimeiddio cyfraddau llawdriniaeth ddydd.

• Gellir dod o hyd i gyfraddau llawdriniaeth ddydd 2003/2004 ym mhob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn Atodiad 3 o Adroddiad heddiw.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol rhyw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Ei chenhadaeth yw hyrwyddo gwelliant, fel y gall pobl yng Nghymru elwa ar wasanaethau cyhoeddus sy’n atebol ac a reolir yn dda sy’n cynnig y gwerth am arian gorau posibl. Mae hefyd wedi ymrwymo i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a estynnodd swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru ac a alluogai trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cymru i’w gyflogaeth.
Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries ar 02920 262 675 neu anfonwch neges e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk

<< Previous article Next article >>