The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Cyfraddau salwch yn y cynulliad yn cwympo
14/09/2006
‘Mae gwell systemau a pholisïau yn cynhyrchu gwell canlyniadau’ meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Cwympodd lefelau absenoldeb salwch a adroddwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn sylweddol y llynedd - gyda’r potensial o sicrhau arbediad cynhyrchiant gwerth hyd at £1.1m o ran amser staff, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Nododd ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, welliannau yn y ffordd y caiff absenoldeb salwch ei adrodd. 

Yn 2005, adroddodd staff gyfartaledd o wyth niwrnod o absenoldeb salwch, o gymharu â deg diwrnod yn 2004. Cyfrannodd gostyngiad nodedig mewn absenoldebau tymor hir a/ neu rai o natur seicolegol at hyn.

Mae’r gostyngiad yn dilyn cynnydd yn y ffocws corfforaethol ar y mater. Adlewyrchwyd hyn drwy’r monitro craffach gan y rheolwyr uwch; drwy gyflwyno polisïau  a dulliau gweithredu rheoli gwell ar gyfer trin absenoldeb salwch; gwell cefnogaeth ar gyfer rheolwyr trwy strwythur AD newydd; a hyfforddiant ychwanegol. Mae recriwtio meddyg iechyd galwedigaethol llawn amser hefyd wedi helpu i ffocysu sylw arbennig ar ddatrys achosion o absenoldeb salwch hirdymor.

Disgwylir datblygiadau pellach yn fuan gan fod yr adran AD yn y broses o gyflwyno system AD electronig newydd ‘Snowdrop’. Dylai’r system hon symleiddio’r broses o recordio absenoldebau a darparu gwybodaeth o ansawdd gwell am dueddiadau o ran absenoldeb salwch i reolwyr ar bob lefel. 
 
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, dywed yr adroddiad fod risg y gallai cyfraddau absenoldeb salwch godi eto oherwydd newid trefniadol sydd ar y gweill, gan gynnwys cyfuno Llywodraeth Cynulliad Cymru â nifer o gyn Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad sydd wedi cynyddu lefelau’r staff gan tua 1,500. Fodd bynnag, hyd yn hyn nid yw’r risg hon wedi digwydd.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i fireinio'r gweithdrefnau rheoli absenoldeb salwch presennol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

• cyhoeddi arweiniad ychwanegol i reolwyr llinell i egluro rhai o’r manylion yn y polisi a’r gweithdrefnau absenoldeb salwch; 
• defnyddio’r system AD Snowdrop i gofnodi ac adrodd ar absenoldeb salwch o’i gymharu ag amser a gollwyd, gan ystyried hyblygrwydd cynyddol y patrymau gweithio ar draws y sefydliad;  
• gwerthuso a yw trefniadau ar gyfer gwasanaethau iechyd corfforaethol a chefnogaeth AD yn parhau i fod yn addas at y diben fel bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ehangu ac yn mynd yn fwy daearyddol wasgaredig.

 Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman heddiw:

“Mae gwell rheolaeth ar absenoldeb salwch yn cynhyrchu gwell canlyniadau ar draws Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau yn rhoi amser ac adnoddau i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae’n bwysig bod rheolwyr ar draws Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i gadw llygad craff ar lefelau absenoldeb salwch, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o newid trefniadol.”     

Nodiadau i Olygyddion:

• Mae’r adroddiad hwn yn archwilio a oes trefniadau effeithiol mewn grym ar gyfer rheoli absenoldeb staff oherwydd salwch ar draws Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn benodol, mae’n ystyried a yw rheolwyr yn deall graddfa absenoldeb salwch ar draws y sefydliad ac a oes trefniadau cadarn mewn grym i rwystro absenoldeb salwch ac i’w rheoli’n rhagweithiol pan fo’n digwydd.

• Mae’r adroddiad yn ymdrin â staff a gyflogir gan Wasanaeth Seneddol y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond nid ag aelodau’r Cynulliad a’u staff, ac mae’n ffocysu ar y trefniadau mewn grym i reoli absenoldeb salwch cyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru a nifer o gyn Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad gael eu cyfuno ( o 1af Ebrill 2006).

• Dyma’r trydydd adroddiad ar reolaeth absenoldeb salwch yn y sector cyhoeddus gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ei adroddiadau blaenorol yw Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch gan Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru (Ionawr 2004) a Rheoli absenoldebau salwch mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru (Mai 2005). Mae’r ddau ar gael ar www.wao.gov.uk

• Ar hyn o bryd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflogi tua 6,500 o staff, gyda chostau staff wedi’u cyllidebu o £222 miliwn am 2006/2007 (heb gynnwys aelodau’r Cynulliad a’u staff).

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwiliad blynyddol o ryw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 yn dilyn pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cymru i’w gyflogaeth ef. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 029-2026-2675 neu anfonwch e-bost at Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 029-2026-2675 neu anfonwch e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk

<< Previous article Next article >>