Datganiadau i'r wasg

Y Cyhoedd Yn Cael Mynediad I Fwy O Gefn Gwlad Cymru

02/11/2006

Dywed yr Archwilydd Cyffredinol y gallai gwersi a ddysgwyd bellach helpu gwella mynediad i'r arfordir

Mae pobl yn cael mynediad i fwy o ardaloedd cefn gwlad Cymru, diolch i lwyddiant Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn llwyddiannus, ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio cefn gwlad yn gyfrifol.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru amcan polisi i gynyddu hawliau statudol y cyhoedd i gael mynediad i gefn gwlad ac i gynyddu eu defnydd cyfrifol o'r hawliau hynny. Fodd bynnag, dywed yr adroddiad fod angen rhannu arfer da yn ehangach er mwyn annog mwy o ddefnydd o gefn gwlad gan y cyhoedd. Mae hefyd yn nodi rhai cyfyngiadau sydd angen eu goresgyn, yn enwedig o ran codi proffil materion mynediad i gefn gwlad a gwella cyflwr y rhwydwaith hawliau tramwy. Dylai gwersi a ddysgwyd o weithredu'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy fod o gymorth wrth lunio cynlluniau ar gyfer gwella mynediad i'r arfordir.

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy wedi cynyddu faint o dir y mae gan y cyhoedd hawl mynediad gyfreithiol iddo i 21 y cant o arwyneb tir Cymru. Wrth i ddarpariaethau'r Ddeddf gael eu cyflwyno fesul cam, gweithredwyd yr hawl mynediad cyhoeddus newydd ledled Cymru ar 28 Mai 2005. Roedd y broses yn cynnwys cydweithio rhwng ystod eang o sefydliadau sector cyhoeddus - yn cynnwys Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, pob un o'r 22 awdurdod lleol, y tri Pharc Cenedlaethol a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru - a chyda thirfeddianwyr, y bu i'r y rhan fwyaf ohonynt gydweithio â'r broses weithredu.

Mae'r adroddiad yn nodi enghreifftiau o fabwysiadu arferion da. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth o ansawdd, megis mapiau teithiau cerdded gyda chodau lliwiau; defnyddio'r gwasanaeth addysg i hyrwyddo mynediad cyfrifol i gefn gwlad gan blant; cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, gwirfoddolwyr a'r Gwasanaeth Prawf wrth wella hawliau tramwy a chyfleusterau cefn gwlad; mentrau i annog grwpiau a allai wynebu allgáu cymdeithasol; a phrosiectau sy'n cysylltu mynediad at gefn gwlad â hyrwyddo iechyd.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr enghreifftiau hyn, casgliad yr adroddiad yw nad yw arfer da yn cael ei ledaenu'n effeithiol. Mewn ymateb i hyn, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu rhestr wirio hunanasesiad, a geir ar ei gwefan (www.wao.gov.uk) i helpu awdurdodau lleol i gymharu eu sefyllfa bresennol gyda'r arfer da a nodwyd.
Mae'r adroddiad yn nodi cyfyngiadau eraill ar gynyddu defnydd y cyhoedd o gefn gwlad. Mae'r cyfyngiadau hyn yn cynnwys y flaenoriaeth isel a rydd nifer o awdurdodau lleol i fynediad i gefn gwlad, cyflwr gwael llwybrau troed, diffyg sylw i anghenion pobl a allai wynebu allgáu cymdeithasol, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol i ardaloedd gwledig ac o fewn ardaloedd gwledig, ac amharodrwydd lleiafrif bach o dirfeddianwyr i gydweithredu.

Gwneir nifer o argymhellion i hybu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnwys:

• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog awdurdodau lleol i gynyddu'r flaenoriaeth a roddant i fynediad i gefn gwlad;
• Dylai Cyngor Cefn Gwlad Cymru weithio gydag awdurdodau lleol wrth ddatblygu cynlluniau peilot ar gyfer gwell mynediad i'r arfordir;
• Dylai awdurdodau mynediad lleol nodi a gweithredu mesurau i annog gwell defnydd o gefn gwlad gan grwpiau a allai wynebu allgáu cymdeithasol;
• Dylai awdurdodau mynediad lleol edrych ar ffyrdd o wella cyflwr eu rhwydwaith hawliau tramwy.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman:
"Bu'n bosibl i bobl gael mynediad i dir Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy newydd ar amser, fel y cynlluniwyd, diolch i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cydweithio'n effeithiol gyda'i gilydd a chyda thirfeddianwyr.  Bydd y gwersi a ddysgwyd wrth weithredu Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, a gweithredu fy argymhellion, yn gymorth i lunio cynlluniau ar gyfer gwella mynediad i'r arfordir."

Nodiadau i Olygyddion:

• Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a yw Cymru yn gwneud cynnydd da tuag at amcan Llywodraeth y Cynulliad o gynyddu hawliau mynediad statudol y cyhoedd i gefn gwlad, ac i gynyddu eu defnydd cyfrifol o'r hawliau hynny.

• Cred Llywodraeth Cynulliad Cymru fod mynediad i gefn gwlad yn chwarae rhan allweddol ym maes adfywio gwledig, gyda manteision iechyd, hamdden, economaidd a chymdeithasol sylweddol yn deillio o ddefnydd y cyhoedd o gefn gwlad. Amcangyfrifir bod twristiaeth gerdded yng Nghymru gwerth £550 miliwn y flwyddyn.

• Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Awdurdodau Lleol a'r Parciau Cenedlaethol ar y cyd fel Awdurdodau Mynediad Lleol.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries ar 02920 262 675 neu e-bostiwch rachel.harries@wao.gov.uk