The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Tenantiaid Pennaf Yn Derbyn Gwasanaeth ‘Boddhaol’
06/11/2006
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad Arolygu ar Grwp Tai Pennaf
Mae Grwp Tai Pennaf yn darparu gwasanaethau ‘boddhaol’ ar y cyfan i’w denantiaid, yn ôl adroddiad arolygu cymdeithas tai diweddaraf yr Archwilydd Cyffredinol.  Datgelodd hefyd bod y Grwp, sy’n gwasanaethu preswylwyr yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Wrecsam, Powys ac Ynys Môn, yn darparu gwasanaethau da neu ragorol mewn rhai meysydd.  Ond nodwyd gwendidau yn ei waith cynnal a chadw, ei gynlluniau i sicrhau gwelliannau parhaus ac wrth fonitro data cydraddoldeb.

Datgelodd yr adroddiad bod gan Pennaf drefniadau boddhaol o ran ei berthynas gyda phreswylwyr, ei wasanaethau rhent a gosod a’i drefniadau cyfle cyfartal.  Roedd yn cynnig gwasanaeth ‘rhagorol’ mewn perthynas â chartrefu pobl gydag anghenion cymorth ac roedd ganddo ddull da o ddarparu a rheoli tai.

Amlygodd y Grwp arferion da mewn sawl maes.  Er enghraifft, roedd ganddo safbwynt clir ar sut y byddai’n ymateb i ymddygiad anghymdeithasol.  Roedd hefyd wedi cyflwyno cynllun gosod Seiliedig ar Ddewis yn y Rhyl i fynd i’r afael ag eiddo anodd ei osod.  Roedd y Grwp hefyd wedi cynnwys a chyfathrebu’n effeithiol â staff yn ei Gynllun Busnes, drwy gynhyrchu crynodeb clir a threfnu cyfres o sioeau teithiol.

Fodd bynnag, datgelodd yr adroddiad gwmpas sylweddol i wella gwasanaethau cynnal a chadw Pennaf.  Roedd perfformiad o ran atgyweiriadau ymatebol yn wael ac nid oedd cynnal a chadw’r gwasanaeth nwy statudol yn cael ei reoli’n ddigonol.  Fodd bynnag, datgelodd yr adroddiad bod y trefniadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw cylchol ac wedi’i gynllunio i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn dda.

Hefyd, yn ystod yr arolygiad, nid oedd llawer o dystiolaeth bod gwasanaethau’n gwella.  Nid oedd targedau perfformiad yn ddigon o her ac nid oedd yn glir pwy oedd yn gyfrifol am reoli perfformiad ac nid oedd ffocws i’w dull o fynd ati.  Tra bod y Grwp yn annog cyfranogiad preswylwyr, roedd hefyd angen dangos bod preswylwyr yn cael dylanwad ar ddatblygiad gwasanaethau ac roedd angen dull mwy strategol ac wedi’i gynllunio o ganfod ac ymateb i safbwyntiau preswylwyr.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i wella, gan gynnwys galwadau i:

• Sicrhau bod gan breswylwyr fynediad cyson i wybodaeth gynhwysfawr am yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Grwp.
• Datblygu strategaeth gadarn i wella perfformiad ôl-ddyledion rhent cyfredol.
• Datblygu strategaeth gadarn ar gyfer gwella perfformiad atgyweirio ymatebol.
• Datblygu ystod ehangach a mwy defnyddiol o ddangosyddion perfformiad a’r rhieni i gael eu monitro ar lefel strategol a gweithredol.

Mae Grwp Tai Pennaf wedi cynhyrchu cynllun gweithredu a gytunwyd arno â’r prif arolygydd ac sy’n amlinellu sut mae’n ymateb i ganfyddiadau’r arolygiad.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:
“Efallai bod Pennaf yn darparu gwasanaethau boddhaol ar y cyfan i’w denantiaid, ond mae angen arddangos bod ganddo gynlluniau a phrosesau yn eu lle i wella’n barhaus.  Mae fy argymhellion wedi’u cynllunio i gynorthwyo Pennaf i ddatblygu i’r cyfeiriad iawn, er mwyn i breswylwyr a staff dderbyn gwasanaethau da neu ragorol yn gyson.”

Nodiadau i Olygyddion:

• Cyflawnwyd yr arolygiad o Grwp Tai Pennaf (y Grwp) ym mis Medi 2005.

• Sefydlwyd y Grwp yn 2003 ac mae’n cynnwys Pennaf Cyf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf a Chymdeithas Tai Ty Glas Cyf.

• Roedd yr arolygiad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwasanaethau a ddarparwyd gan Clwyd Alyn sy’n rheoli dros 4,000 o eiddo ac sy’n darparu ar gyfer anghenion cyffredinol, gofal a chymorth a pherchentyaeth cost isel.

• Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru.  Cynhelir yr arolygiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

• Nodir y cwestiynau penodol am bob agwedd sy’n cael sylw yn yr arolygiad yn y fersiwn diweddaraf o God Rheoleiddio’r Cynulliad ar Gymdeithasau Tai yng Nghymru.  Gellir cael golwg ar y Cod hwn drwy glicio ar y ddolen ganlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwiliad blynyddol tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a oedd yn ymestyn swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn galluogi trosglwyddo staff o Gomisiwn Archwilio Cymru a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru i’w chyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu ebost rachel.harries@wao.gov.uk

<< Previous article Next article >>