|
Wrth wneud sylwadau ar yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd ei fod wedi nodi nifer o achosion o dwyll hirdymor ac wedi helpu i'w dileu. Yn ogystal â chanfod taliadau twyllodrus a gwallus, arweiniodd Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 at 31 o erlyniadau llwyddiannus a nodi 206 o achosion o dwyll neu wall sy'n ymwneud â chyflogeion y sector cyhoeddus.
Dau faes allweddol o lwyddiant oedd canfod ac adennill gordaliadau budd-daliadau tai, a thalu pensiynau i bobl sydd wedi marw. O ran budd-daliadau tai, nododd awdurdodau arbedion o £1.038 miliwn - sef cynnydd o 45% ar yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol blaenorol.
Dangosodd ymarfer paru data pensiynau ostyngiad mewn gordaliadau o £135,000 yn y flwyddyn flaenorol i £98,000. Dangosodd achosion a nodwyd o dalu pensiynau ar ôl marwolaeth ostyngiad sylweddol ers adroddiad blaenorol y Fenter Twyll Genedlaethol. Dim ond 21 o achosion a nodwyd - sef gostyngiad o 40 o achosion ers yr ymarfer blaenorol.
Pwysleisia'r adroddiad er bod ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 wedi cynhyrchu rhai canlyniadau llwyddiannus iawn, nifer fach o awdurdodau sy’n cyflwyno adroddiadau ar arbedion ar hyn o bryd. O ganlyniad i ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 nododd tri awdurdod arbedion o fwy na £0.25 miliwn, a nododd un awdurdod arbedion o dros £0.5 miliwn.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru a'r Comisiwn Archwilio wedi creu modiwlau paru data newydd i ehangu'r ymarfer Menter Twyll Genedlaethol nesaf a helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i dargedu twyll a gordaliadau. Profwyd y modiwlau mewn safleoedd peilot ledled y DU ar gyfer 2004/2005 a byddant ar gael yng Nghymru ar gyfer 2006/2007. Maent yn cynnwys: • parcio a thrafnidiaeth, • hawliadau yswiriant, • taliadau i gartrefi gofal preswyl preifat a gofal parhaus, • taliadau credydwyr, a • trwyddedau masnachwyr marchnad a gyrwyr tacsi. Bydd mwy o sefydliadau yn cymryd rhan ym Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007, a fydd yn golygu data ychwanegol i helpu i nodi twyll a gordaliadau.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
Mae twyll yn broblem ddifrifol, nid yn unig y mae'n lleihau'r help sydd ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf, mae hefyd yn tanseilio hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn helpu i leihau gordaliadau ac yn caniatáu i arian cyhoeddus ddarparu cymorth lle bo'i angen mewn gwirionedd. Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan hefyd yn manteisio ar drefniadau cryfach i atal twyll a llygredd. Yn y dyfodol, gobeithiaf y bydd pob corff cyhoeddus sy'n gymwys yn cyfranogi yn y Fenter Twyll Genedlaethol.
Nodiadau i Olygyddion
• Datblygwyd y Fenter Twyll Genedlaethol yn wreiddiol gan y Comisiwn Archwilio. Mae'n paru data ar draws cyrff sector cyhoeddus a rhwng systemau gwahanol i nodi taliadau a allai fod yn dwyllodrus neu'n wallus.
• Dechreuodd yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol yn 1996, ac fe'i cynhelir bob dwy flynedd bellach. Hyd yma fe'i defnyddiwyd i nodi cyfanswm o dros £300 miliwn o dwyll a gwallau yn y DU; £7.5 miliwn mewn perthynas â Chymru.
• Cymerodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfrifoldeb dros y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru yn 2005.
• Cyfranogodd dros 1,300 o sefydliadau yn y DU yn yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf (68 yng Nghymru). Ymhlith y sefydliadau a gyfranogodd yn ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 roedd awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu, awdurdodau tân, cyrff y GIG a byrddau prawf.
• Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno gwybodaeth am eu systemau ariannol. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â budd-daliadau tai, rhenti, ad-daliadau, taliadau pensiwn, cyflogres, taliadau i geiswyr lloches, tenantiaethau cyngor, dyfarniadau myfyrwyr, cofnodion marwolaethau ac ati. Caiff y wybodaeth a roddir ei mewnbynnu i gronfa ddata ganolog a gynlluniwyd i baru eitemau data neu nodi gweithgarwch a allai fod yn dwyllodrus neu'n amhriodol.
• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Towler Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau ar 029 20 26 2675 neu anfonwch e-bost at laura.towler@wao.gov.uk
|