Datganiadau i'r wasg

Y Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol 'yn helpu i atal digartrefedd yng Nghymru'

18/01/2007

Ond mae angen rhagor o gynnydd, meddai'r Archwilydd Cyffredinol

Mae'r Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol yn helpu i atal digartrefedd yng Nghymru, darganfu adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a ryddhawyd heddiw. Erys risgiau allweddol, ac mae angen gwneud rhagor o gynnydd i wella cydgysylltu gweithgareddau i leihau digartrefedd, y gwasanaethau ataliol lleol a gwerthusiad.

Mae'r adroddiad yn dweud bod tuedd ymddangosol ar i lawr o ran digartrefedd yng Nghymru ond nid yw'n bendant . Mae'r nifer o bobl a gofnodwyd yn ddigartref wedi lleihau o rhyw 2,600 yn y trydydd chwarter yn 2004 i 1,900 yn yr ail chwarter yn 2006, ond cafwyd ychydig o gynnydd dros y chwe mis diwethaf. Mae'n bosibl nad yw'r ystadegau'n dweud yr holl stori gan nad yw rhai pobl yn dweud eu bod yn ddigartref.

Mae'r Strategaeth, sy'n canolbwyntio'n glir ar atal digartrefedd, yn cael y clod am annog cyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill i weithio gyda'i gilydd. Mae llawer o enghreifftiau o weithio ar y cyd yn llwyddiannus o dan y Strategaeth, ond mae angen adeiladu ar y cydweithredu rhwng adrannau'r Cynulliad a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Er bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth o'r Strategaeth mae'r dylanwad y mae'n cael ar y gwahanol gyrff  sy'n ymwneud â mynd i'r afael â digartrefedd yn amrywio.  Mae wedi cyflwyno arweiniad newydd ac yn darparu arian grant i ddatblygu mentrau ataliol newydd.

 

Nid yw monitro a gwerthuso'r Strategaeth eto wedi cyrraedd ei lawn twf ac fe fyddant yn heriol yn enwedig pan nad oes unrhyw dargedau mesuradwy. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gobeithio mynd i'r afael â'r mater o gyflenwad a galw  trwy ei Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol a'r Pecyn Cymorth Tai Fforddiadwy.

 

Mae'r adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion i helpu i leihau ymhellach lefel digartrefedd yng Nghymru, gan gynnwys:

 

Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw,

"Mae digartrefedd yn fater cymhleth a chymdeithasol sy'n peri pryder mawr ac yn un na ellir mynd i'r afael ag ef ond trwy weithio ar draws ffiniau sefydliadol. Mae'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru'n amlwg yn ffactor hanfodol ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy ei Strategaeth Tai Cenedlaethol. Yn ddiamau, mae i'r Strategaeth Ddigartrefedd y potensial i helpu i atal digartrefedd. Gyda gwell cyd-drefniant a gwerthusiad dylai gael effaith gynyddol."

Nodiadau i Olygyddion:

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu anfonwch e-bost at Rachel.moss@wao.gov.uk