23/03/2007
Archwilydd Cyffredinol yn argymell gweithredu i helpu i gyrraedd amcanion a thargedau effeithlonrwydd ynniNid oes llawer o gynghorau yng Nghymru yn ymdrechu'n weithredol i sicrhau effeithlonrwydd o ran ynni a dwr ac maent yn colli allan ar gyfleoedd i arbed arian a darparu gwasanaethau gwyrddach yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae Jeremy Colman yn priodoli'r prinder llwyddiant yn y gwaith o leihau defnydd a chostau ynni a dwr i bolisïau nas dabtlygwyd yn ddigonol a pholisïau sydd wedi'u hintegreiddio'n wael, cyfrifoldebau aneglur a dull gwael o reoli perfformiad.
Mae'r adroddiad yn egluro er bod gan y rhan fwyaf o gynghorau bolisïau ynni, mae eu safon yn amrywio ac anaml iawn y cânt eu hintegreiddio i fframweithiau polisi corfforaethol cynghorau. Mae'r rhan fwyaf wedi neilltuo'r cyfrifoldeb am reoli ynni a dwr i uwch swyddog neu uwch aelod, ond caiff eu heffeithiolrwydd eu tanseilio gan gynlluniau gweithredu o safon wael a gwybodaeth annibynadwy sy'n ei gwneud yn anodd monitro perfformiad. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod angen i gynghorau atgyfnerthu eu dulliau o reoli ynni a dwr os ydynt yn mynd i lwyddo i leihau defnydd a chostau yn sylweddol. Dylid ymgorffori ystyriaethau effeithlonrwydd ynni mewn cynlluniau rheoli asedau a phenderfyniadau caffael, a dylai cynghorau ymgysylltu â defnyddwyr ynni a dwr i sicrhau eu hymrwymiad a'u cyfranogiad i leihau defnydd. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai cynghorau ystyried a yw adnoddau staff ar gyfer rheoli ynni a dwr yn addas, ac ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:
"Gall cynghorau leihau eu defnydd a'u costau yn sylweddol os byddant yn rheoli ynni a dwr yn fwy effeithiol. Mae arwyddion bod cynghorau yn ymgorffori mesurau effeithlonrwydd ynni mewn prosiectau newydd, ac mae hyn yn galonogol. Ond hyd yn hyn, nid ydynt yn llwyddo i fanteisio ar y cyfle yn llawn. Mae angen iddynt wneud mwy i helpu staff i ddeall sut y gallant leihau'r defnydd o ynni a dwr a darparu cymhelliant i adrannau a staff i wneud arbedion o ran effeithlonrwydd."
Nodiadau i Olygyddion:
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss (Rheolwr Cysylltiadau) ar 02920 262 675 neu e-bostiwch rachel.moss@wao.gov.uk