Datganiadau i'r wasg

Adroddiad Arolygu Ar Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd

09/05/2007

'Mae gwasanaethau landlord heb eu llawn ddatblygu ac mae angen iddynt wella' meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd wedi wynebu nifer o heriau sylweddol ers iddi gael ei sefydlu yn 2001 ac mae adroddiad arolygu, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud i rywfaint o gynnydd a gwelliant gael eu gwneud yn y cyfnod hwnnw.  Adeg yr arolwg ym mis Ionawr 2006 roedd yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ei gweithgareddau ar adnewyddu byngaloau parod ac roedd wedi gwella ansawdd ei chartrefi'n sylweddol. Fodd bynnag, roedd gwasanaethau landlord heb eu llawn ddatblygu a darganfu'r adroddiad fod lle i wella'r ystod o wasanaethau, y darganfuwyd eu bod o ansawdd amrywiol, ymhellach.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau boddhaol mewn tri o'r wyth mas allweddol,  a rhoddir gradd 'dda' iddi am ei hymagwedd tuag at ddarparu tai. Ond mae'r adroddiad yn dweud bod gan yr Ymddiriedolaeth lawer o le i wella o ran ei pherthynas â thrigolion, o ran ei gwasanaeth gosod a chynnal a chadw, ac mae'n methu â chydymffurfio â'i chod rheoleiddio o ran ei threfniadau cyfle cyfartal.

Mae'r adroddiad yn gwneud 20 argymhelliad ar feysydd i'w datblygu ymhellach, gan gynnwys:

Bu i'r adroddiad hefyd ddarganfod gwendidau ym mhrosesau a pherfformiad yr Ymddiriedolaeth. Er enghraifft, roedd gan yr Ymddiriedolaeth gyfeiriad clir, ond nid oedd yn gallu sicrhau ei bod yn ateb pob amcan strategol oherwydd diffyg cynlluniau cyflenwi cadarn. Hefyd, roedd gwendidau o ran rheoli perfformiad yn golygu nad oedd yr Ymddiriedolaeth mewn sefyllfa dda i sicrhau gwelliant parhaus yn ei holl weithgareddau ac nad oedd ganddi dystiolaeth i ddangos gwelliannau yn ei gwasanaethau.

Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:

"Mae Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd wedi gwella ansawdd ffisegol ei chartrefi. Yn awr, mae angen iddi ddatblygu ei gwasanaethau landlord fel y bydd gan breswylwyr fynediad at ystod lawn o wasanaethau o safon dda. Mae'r Ymddiriedolaeth yn mynd ati i fynd i'r afael â materion yn y tymor byr ac rwy'n hyderus y bydd fy argymhellion yn ei helpu i sicrhau rhagor o welliannau."