Datganiadau i'r wasg

Swyddfa Archwilio Cymru Yn Lansio Gwefan Y Gyfnewidfa Arfer Da

17/05/2007

Canllaw ar-lein i helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella

Heddiw mae Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio y Gyfnewidfa Arfer Da - gwefan ar-lein ryngweithiol sydd wedi'i chynllunio i helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella, yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gan ddechrau gyda'r pwnc o reoli absenoldeb oherwydd salwch, bydd y Gyfnewidfa Arfer Da yn ymdrin ag un neu ddwy thema gyffredinol bob blwyddyn sy'n berthnasol i bob sefydliad sector cyhoeddus. Mae'r tudalennau gwe yn llawn gwybodaeth a chyngor, yn cynnwys fideos, astudiaethau achos, rhestrau gwirio DIY ac offer proffilio, ac maent yn fannau cyfeirio defnyddiol i staff ar bob lefel - o Brif Weithredwyr, Aelodau Etholedig i Swyddogion a Gweinyddwyr. Gellir gweld y Gyfnewidfa Arfer Da yn www.wao.gov.uk

Mae rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwnc cyntaf pwysig. Caiff tua 23% o weithlu Cymru ei gyflogi yn y sector cyhoeddus. Mae'r budd uniongyrchol o leihau nifer cyfartalog y diwrnodau a gollir o un yn unig yn cyfateb i £27 miliwn ychwanegol i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Gyfnewidfa Arfer Da yn ymdrin â pha ddulliau absenoldeb oherwydd salwch sy'n gweithio'n dda ac yn annog sefydliadau i edrych ar enghreifftiau o arfer da a dysgu o lwyddiannau sefydliadau eraill.

Penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru lansio'r Gyfnewidfa Arfer Da oherwydd ei safle unigryw. Mae ei chylch gwaith yn cwmpasu cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru - Awdurdodau Unedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ymddiriedolaethau'r GIG, Byrddau Iechyd Lleol, yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf Tân, Parciau Cenedlaethol, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad  a Chynghorau Cymuned - felly gall edrych ar y darlun cyflawn. Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru drwy helpu sefydliadau i ddod o hyd i arfer da a'i weithredu.

Datblygwyd y Gyfnewidfa Arfer Da mewn ymgynghroiad â chyrff sector cyhoeddus eraill ac mae ganddi gysylltiadau cryf â Rhagoriaeth Cymru a Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd, ac ychwanegir pynciau newydd dros amser. Gwahoddir sefydliadau i gyflwyno eu syniadau a'u hastudiaethau achos drwy anfon e-bost i goodpractice@wao.gov.uk

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Mae'r Gyfnewidfa Arfer Da yn hawdd i'w defnyddio ac mae'n berthnasol i bawb ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Credaf yn gryf ei bod yn cynnig posibilrwydd gwirioneddol o newid ymddygiad mewn meysydd allweddol. Po fwyaf o bobl a fydd yn ei defnyddio, gorau oll fydd y canlyniadau i bobl Cymru - sy'n haeddu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd gorau."

Heddiw, dywedodd Anthony Snow, Prif Swyddog Gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru:
"Nid oes diben dyblygu gwaith, a dyna pam mae'r Gyfnewidfa Arfer Da yn offeryn mor ddefnyddiol i'r holl wasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhannu'r gwaith o ddysgu ledled Cymru drwy ddangos beth sy'n gweithio'n effeithiol mewn mannau eraill. Pam ddim cymryd syniadau da oddi wrth sefydliadau eraill a'u gweithredu lle bo hynny'n bosibl? Mae'n ffordd effeithiol, dyfeisgar a mwy cyflym o wella a chysylltu gwasanaethau cyhoeddus â'i gilydd."