The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Strategaeth i wneud Cymru'n egniol yn 'gwneud rhywfaint o gynnydd'
07/06/2007
‘Ond dylid cydlynu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy' meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Cymru yn gwneud rhywfaint o gynnydd yn yr ymdrech i annog pobl i fod yn fwy egnïol, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae strategaeth gweithgaredd corfforol Llywodraeth y Cynulliad Dringo’n Uwch wedi dod ynghyd â gwahanol sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy'n gyfrifol am hyrwyddo gweithgaredd corfforol. Mae'r strategaeth wedi gweithredu fel catalydd i annog newid, ond mae angen mwy o gydlynu o hyd gan y rhai sy'n cymryd rhan er mwyn i'r buddiannau llawn gael eu gwireddu. Dylai bod gwell arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol; dylid gwerthuso mentrau'n fwy effeithiol a dylid alinio strategaethau lleol a chenedlaethol yn well. Gellid hefyd gwella'r cynllun Nofio am Ddim, a gyflwynwyd yn 2003 i blant a phobl hyn.

Mae lefelau gweithgaredd corfforol yn isel yng Nghymru. Dim ond un o bob tri oedolyn yng Nghymru sy'n gwneud y lefelau o weithgaredd corfforol a argymhellir bob wythnos ac mae bron i hanner yr oedolion wedi'u dosbarthu fel pobl anweithgar. Nod strategaeth 20 mlynedd Llywodraeth y Cynulliad yw cynnig ateb hirdymor. Ond, mae cymhlethdod y mater yn gofyn am gyfranogiad nifer fawr o sefydliadau, gan gynyddu'r risg o aneffeithlonrwydd ac aneffeithiolrwydd.

Mae nifer o ffactorau sy'n rhwystro sector cyhoeddus Cymru rhag cyflwyno Dringo’n Uwch. Er enghraifft, nid oes neb wedi'i enwi i fod yn gyfrifol am gynyddu gweithgarwch corfforol yng Nghymru, ac nid yw rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd wedi'u diffinio. Mae hyn yn cynyddu'r potensial ar gyfer dryswch, dyblygu ymdrech ac aneffeithlonrwydd. Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws Cymru yn anghyson ac mae'r arian yn fyrdymor, sy'n rhwystro cynllunio hirdymor. Ar y cyfan llywiwyd ymdrechion i gynyddu gweithgarwch corfforol yn genedlaethol ac yn lleol gan adrannau chwaraeon a hamdden. Gallai hyn rwystro pobl nad oes ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon, a gallai gyfyngu ar y gefnogaeth a'r buddsoddiad gan asiantaethau eraill.
 
Hefyd, dylid seilio pob cynllun a menter i hyrwyddo gweithgaredd corfforol ar dystiolaeth gadarn a dylid gwerthuso eu llwyddiant. Fodd bynnag, mae Dringo’n Uwch a'i bapur dilynol Dringo’n Uwch - Y Camau Nesaf, yn methu â gosod dulliau gwerthuso penodol a chynhwysfawr.

Mae'n fwriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r materion drwy sefydlu grwp sy'n gweithio ar draws adrannau. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer hyrwyddo gwelliant pellach. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu grwp llywio Dringo'n Uwch lefel uchel a phenodi unigolyn a enwir i oruchwylio a chydlynu'r holl waith gweithgarwch corfforol yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiffinio'n glir a chytuno ar rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd am weithredu rhwng y sefydliadau arweiniol sy'n ymwneud â chyflwyno'r agenda gweithgarwch corfforol;
  • Dylid datblygu cynlluniau gweithgaredd corfforol lleol mewn partneriaeth ag adrannau awdurdod lleol perthnasol, yn ogystal â chyda Byrddau Iechyd Lleol, y Cyngor Chwaraeon, ac ati;
  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru a'i phartneriaid lunio cynllun ymchwil a gwerthuso ar gyfer Dringo'n Uwch; a
  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru bennu targedau cenedlaethol ar gyfer cymryd rhan yn ei menter Nofio am Ddim yn erbyn amcanion allweddol y cynllun.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman:
“Mae angen i gyrff cyhoeddus wella'u hymdrechion os ydynt am droi Cymru yn genedl egnïol. Nid yw newid ymddygiad pobl yn dasg hawdd, ond drwy weld dull o weithredu wedi'i gydlynu’n well gan yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â hyn, gellir gwneud gwahaniaeth. Mae angen i strategaeth Llywodraeth y Cynulliad gael ei gwella mewn rhai meysydd er mwyn annog mwy o lwyddiant yn lleol.”

<< Previous article Next article >>