The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Cyllid y Cynulliad a'r GIG 'wedi'u rheoli'n dda'
27/06/2007
Ond Archwilydd Cyffredinol Cymru yn pryderu am rywfaint o orwario mewn rhannau o'r GIG
Cymeradwyodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, gyfrifon y Cynulliad a'r GIG heddiw ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2006. Dywed ei adroddiad, sydd hefyd yn cwmpasu cyrff cyhoeddus a chyfrifon cysylltiedig, bod bron yr holl gyfrifon yn ddigon cywir a'u bod wedi'u paratoi'n briodol fel nad oedd angen unrhyw amod. Ond mae'n tynnu sylw at ffyrdd y gellid gwella'r broses o reoli arian cyhoeddus, ac yn amodi ei farn ar gyfrifon dau fwrdd iechyd lleol oherwydd gorwario. Mae hefyd yn cyfeirio at y risgiau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru mewn oes o newid cyfansoddiadol.

Roedd yr adroddiad yn amlygu pryderon Jeremy Colman am nifer yn y GIG sy'n parhau i gofnodi diffygion ariannol. Dywedodd: ‘Yn ddi-au, mae'r heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu yng Nghymru yn galw am safonau uchel iawn o reolaeth ariannol. Yn ôl yr arfer, ond yn enwedig yn y misoedd sydd i ddod, rwy'n bwriadu cefnogi cyrff iechyd wrth iddynt ymdrechu i wynebu'r heriau hyn a chyrraedd safonau gofal iechyd newydd.’

Ymhlith y prif negeseuon o'r adroddiad, sy'n amlygu meysydd ar gyfer gwella mae'r canlynol:

  • er bod gweithdrefnau caffael yn gwella, dylai cyrff wneud mwy o ddefnydd o Gwerth Cymru i gael gwell gwerth am arian cyhoeddus;
  • gall sefydliadau wella'r ffordd y maent yn paratoi ceisiadau am grant Ewropeaidd;
  • mae cyrff a archwilir yn parhau i wella eu perfformiad talu, er bod angen mwy o waith ar rai agweddau o hyd;
  • Mae systemau e-gaffael ac e-grantiau yn rhoi gwell gwybodaeth ariannol i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ond gall wneud mwy i sicrhau eu buddiannau llawn;

Nododd yr Archwilydd Cyffredinol hefyd y risgiau a'r cyfleoedd mewn oes o newid cyfansoddiadol a chorfforaethol dwys, sydd wedi trawsnewid y broses lywodraethu a gweinyddu ariannol yng Nghymru. Mae'r newidiadau wedi gwneud arian cyhoeddus Cymru yn fwy annibynnol ar San Steffan, ac wedi creu Cronfa Gyfunol Cymru.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
‘Mae safonau cyffredinol gonestrwydd a rheolaeth ariannol llywodraeth ganolog a chyrff y GIG yng Nghymru yn uchel a lle mae materion wedi codi, gweithredwyd ar fy argymhellion. Mae gan y cyrff cyhoeddus hyn drefniadau rhesymol i gael y gwerth gorau am arian cyhoeddus ond rhaid i gynllunio ariannol, yn enwedig yn y GIG, fynd y tu hwnt i'r sefyllfa uniongyrchol i gynlluniau tymor canolig a hirdymor.
Edrychaf ymlaen at gydweithio â'r cyrff yr wyf yn eu harchwilio i gadw gwasanaethau cyhoeddus yn atebol a gwella'r gwasanaethau y mae cymaint yn dibynnu arnynt.’

<< Previous article Next article >>