The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Cymdeithas Tai Unedig Cymru yn darparu 'gwasanaethau da'
10/07/2007
Archwilydd Cyffredinol yn rhyddhau'r adroddiad arolygu diweddaraf ar Gymdeithasau Tai
Mae Cymdeithas Tai Unedig Cymru yn darparu gwasanaethau da yn bennaf i'w thenantiaid, yn ôl adroddiad arolygu a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Barnodd fod y Gymdeithas yn darparu gwasanaeth gosod 'da'; a bod ganddi ymagwedd 'dda' tuag at ddarparu tai yn ogystal â threfniadau cyfle cyfartal 'da'. Canfu hefyd fod y Gymdeithas yn darparu gwasanaeth rhentu 'ardderchog' a gwasanaethau 'ardderchog' i bobl sydd ag anghenion cymorth. Canfuwyd bod ei gwasanaeth cynnal a chadw yn 'foddhaol', ynghyd â'i gwasanaeth rheoli tai a'i pherthynas â phreswylwyr.

Roedd y Gymdeithas yn dangos gallu corfforaethol a strategol cryf hefyd. Roedd wedi sefydlu system rheoli perfformiad gynhwysfawr a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni targedau corfforaethol, ac yn ddiweddar roedd wedi datblygu system newydd er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o enghreifftiau o arfer da yn y Gymdeithas hefyd. Ymhlith y rhain mae cynllun gosodiad Dewis Cartref  y Gymdeithas, a oedd wedi sicrhau perfformiad gwell o ran gosod tai gwag. Mae'r Gymdeithas wedi datblygu protocôl troi allan hefyd, gyda'r nod o leihau nifer y tenantiaid sy'n cael anawsterau gydag ôl-ddyledion rhent ac sydd mewn perygl o golli eu cartrefi. Ymhlith enghreifftiau eraill o arfer da mae ymagwedd y Gymdeithas tuag at faterion cydraddoldeb drwy ddefnyddio'r Fewnrwyd: ei rheolaeth ar wasanaethu statudol; a datblygu Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau Lles sydd wedi darparu
budd-daliadau i breswylwyr gwerth £123,000 dros gyfnod o saith mis.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwella pellach, gan gynnwys:

  • gweithio gyda thenantiaid i ddatblygu Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid, gyda chynlluniau gweithredu clir;
  • gosod targedau heriol i ategu gwella parhaus o ran rheoli tai gwag;
  • datblygu a chyflwyno system apwyntiadau atgyweirio;
  • datblygu a rhoi Cynllun Iaith Gymraeg ar waith;
  • datblygu dulliau mwy effeithiol o ymgysylltu â grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd ac ymgysylltu'n fwy effeithiol â'r rheini nad ydynt yn rhan o'r broses; a 
  • sicrhau y caiff gwaith y Gymdeithas ei werthuso'n rheolaidd.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae fy adroddiad yn dangos bod Cymdeithas Tai Unedig Cymru yn gyffredinol yn darparu gwasanaeth da i'w thenantiaid. Ac o weithio'n barhaus i ddatblygu'r meysydd yr wyf wedi'u hamlygu, fel gwerthuso perfformiad yn rheolaidd, dylai'r Gymdeithas allu gwella safon ei gwasanaethau ymhellach. Rwyf hefyd wedi nodi nifer o enghreifftiau o arfer da, a ddylai fod yn ddiddorol ac yn berthnasol i gymdeithasau tai cyhoeddus eraill yng Nghymru."

<< Previous article Next article >>