The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Contract newydd meddygon teulu yng Nghymru ‘yn dod â rhai buddion i gleifion’
23/08/2007
‘Ond mae angen ei reoli’n well’ meddai'r Archwilydd Cyffredinol
Mae’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Newydd yn helpu i wella gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ac yn integreiddio gwasanaethau Meddygon Teulu (GP) yn fwy effeithiol. Ond mae angen newidiadau yn y ffordd y rhedir y contract, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol Jeremy Colman. Mae ei adroddiad “Adolygiad o'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd yng Nghymru” yn nodi bod angen monitro'r arian a roddir i Bractisau Meddygon Teulu’n fanylach.
 
Mae'r contract newydd, a gyflwynwyd o Ebrill 2003 wedi helpu i dawelu y pryderon oedd gan lawer o feddygon teulu ynghylch eu llwyth gwaith a chynaliadwyedd gwasanaethau.  Mae’r contract wedi rhoi rhagor o gyllid i bractisau meddygon teulu ar gyfer gwasanaethau, ac yn rhoi rhagor o reolaeth dros y gwasanaethau y mae eu practisau'n eu cynnig.  Mae amodau gweithio meddygon teulu wedi gwella, mae oriau gweithio wedi gostwng, ac mae incwm meddygon teulu wedi codi gan tua 25 y cant ar gyfartaledd. Mae meddygon teulu yn dal ar gael i gleifion a bellach mae’n haws i gleifion ddefnyddio rhai gwasanaethau gofal sylfaenol a chlefydau cronig drwy eu meddygon teulu. Mae gwasanaethau i gleifion yn cael eu gwella ar ôl i’w meddygon teulu ofyn iddynt am eu barn ynghylch ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu cael.  
 
Cyflwynwyd system pwyntiau newydd, y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, i helpu i fesur perfformiad practisau meddygon teulu a dosbarthu cyllid. Mae hyn yn mesur camau yn y broses gofalu, rhai canlyniadau dros dro cleifion ac agweddau eraill ar wasanaethau. Mae hyn wedi gwella’r gweithgaredd llinell sylfaen ac ansawdd y gofal mewn llawer o feysydd. Mae’r system pwyntiau newydd hefyd wedi codi incwm practisau meddygon teulu. Sicrhaodd practisau sgoriau llawer uwch nag a ragwelwyd a gwnaethant dderbyn taliadau’n gyflymach na’r disgwyl, gan ddefnyddio arian a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer cyffuriau. Gellir bod wedi defnyddio’r arbedion hyn ar gyffuriau ar gyfer datblygiadau gofal iechyd eraill.
 
Mae’r Adroddiad yn canfod rhai problemau yn y ffordd y rheolir y contract newydd. Mae amwyster ynglyn â diffinio pa wasanaethau craidd y mae'r contract yn eu darparu, ac mae rhai practisau meddygon teulu wedi bod yn gallu hawlio incwm ychwanegol ar gyfer gwasanaethau a  ddarperid ganddynt o dan yr hen gontract. Ymddengys hefyd fod amrywiaeth yn y manylder a’r llymder a gymhwyswyd wrth wirio’r pwyntiau a ddyfernir i bob practis meddygon teulu.  Yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, nid yw Byrddau Iechyd Lleol yn cynnal archwiliadau ar hap er mwyn sicrhau bod y system newydd yn gweithio’n gywir yng Nghymru.
 
Mae’r contract yn darparu fframwaith i feddygon teulu ddarparu gwasanaethau newydd a gwell i gleifion. Mae’r adroddiad yn canfod bod nifer y gwasanaethau hyn a ddarparwyd yn gyfyngedig, ar wahân i rai gwasanaethau a gyfarwyddwyd yn genedlaethol.
 
Mae’r newidiadau a gyflwynwyd gan y contract yn golygu bod ymarfer cyffredinol bellach yn opsiwn mwy deniadol i feddygon ifanc ac, am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, mae gordanysgrifio ar gynlluniau hyfforddeion ac mae lefelau lleoedd gweigion yn gostwng.  
 
Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion gwella, gan gynnwys:
  • Mae’n rhaid i Gyflogwyr GIG (sef y corff negodi ar gyfer y contract GMC ar ran y pedair adran iechyd yn y DU) egluro beth yw'r gwasanaethau craidd a ddarperir gan y contract GMC; 
  • Mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol gyflwyno archwiliadau rheolaidd a manwl; 
  • Mae’n rhaid i dargedau meddygon teulu fel y’u mynegir gan y system pwyntiau newydd adlewyrchu gwelliannau hanfodol mewn gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer cleifion; ac 
  • Mae'n rhaid i Gomisiynwyr GIG fanteisio’n llawn ar hyblygrwydd y contract newydd er mwyn darparu gwasanaethau lleol sy’n seiliedig ar anghenion lleol. 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:
“Er ei bod yn amlwg bod y contract GMC wedi helpu i achosi rhai gwelliannau i wasanaethau gofal sylfaenol, nod fy argymhellion yw arwain sut y gellir gwneud gwelliannau pellach yn y ffordd y caiff ei reoli, er mwyn sicrhau bod y contract GMC yn cyflawni ei botensial.”

<< Previous article Next article >>