The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Adroddiad ardderchog i Gymdeithas Tai Taf
29/08/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhyddhau'r adroddiad ar y Gymdeithas yng Nghaerdydd
Mae Cymdeithas Tai Taf yn darparu gwasanaethau ardderchog i denantiaid mewn pump allan o wyth maes allweddol yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Nododd yr adroddiad fod gan y Gymdeithas yng Nghaerdydd drefniadau cyfle cyfartal 'ardderchog'; dulliau 'ardderchog' o ddarparu tai; gwasanaethau rhenti a gosod 'ardderchog'; a'i bod yn darparu tai 'ardderchog' ar gyfer pobl ag anghenion cymorth. Mae gan y Gymdeithas hefyd gydberthynas 'dda' â phreswylwyr, trefniadau rheoli tai 'da' a gwasanaeth cynnal a chadw 'boddhaol'.

Nododd yr adroddiad hefyd fod gwasanaethau wedi bod yn gwella yn y rhan fwyaf o feysydd, er bod cyflymdra'r gwelliannau o ran atgyweiriadau yn sylweddol arafach. Mae gan y Gymdeithas gyfeiriad strategol clir ar gyfer y dyfodol, a nodir yn ei Chynllun Busnes, a chaiff cynnydd ei fonitro'n rheolaidd a'i adrodd i'r Bwrdd.

Caiff enghreifftiau o arfer da a gyflawnir gan y Gymdeithas hefyd eu nodi yn yr adroddiad, y gall sefydliadau tebyg eraill ddysgu ohonynt. Mae'r rhain yn cynnwys:  cynnal ciniawau rheolaidd ar gyfer tenantiaid ag anghenion cymorth; cynnig cyngor cyn tenantiaeth i ymgeiswyr sy'n debygol o gael cynnig cartref, ar faterion megis rheoli cyllidebau; cyflogi Cynorthwywyr Ystadau i ddarparu gwasanaeth rheng flaen ar ystadau mwy; sicrhau bod nodi a darparu cymorth yn rhan hanfodol o waith yr holl staff; a recriwtio staff o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwelliannau pellach, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod holl safonau gwasanaeth ar gael yn hawdd i denantiaid a datblygu trefniadau i fonitro a hysbysu preswylwyr am berfformiad.
  • Monitro mynediad yn ôl tarddiad ethnig i'r holl wasanaethau.
  • Gwerthuso effaith cyngor ar atal dyledion a ddarperir gan staff y Gymdeithas a chan asiantaethau allanol yn gynhwysfawr.
  • Gweithio gyda phreswylwyr i sicrhau y caiff yr holl waith atgyweirio ymatebol ei gyflawni yn effeithiol.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Rwy'n falch bod Cymdeithas Tai Taf wedi ei graddio'n ardderchog yn y rhan fwyaf o feysydd a bod gwasanaethau yn parhau i wella. Mae'n Gymdeithas gref a chanddi gynlluniau clir ar gyfer y dyfodol, a gobeithiaf y bydd cymdeithasau tai cymdeithasol eraill yn nodi'r enghreifftiau niferus o arfer da a welsom yno. Ond, ni ddylid bod yn hunanfodlon a gobeithiaf y bydd y Gymdeithas yn ystyried fy argymhellion - yn arbennig mewn meysydd megis atgyweiriadau a chynnwys preswylwyr - i wella ymhellach fyth."

<< Previous article Next article >>