|
Mae Cymdeithas Tai Rhondda yn darparu gwasanaethau ‘da’ ac ‘arbennig’ i’w thenantiaid mewn saith o wyth maes allweddol. Yn ôl adroddiad ar yr arolygiad diweddaraf o’r gymdeithas tai, a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, roedd perthynas y Gymdeithas gyda’i thrigolion, ei gwasanaeth rheoli tai a’i threfniadau ar gyfer darparu tai yn ‘ardderchog’. Roedd trefniadau ‘da’ ar waith ar gyfer sicrhau cyfle cyfartal, rhenti a gosodiadau ar gyfer pobl ag anghenion cymorth. Roedd y gwasanaeth cynnal a chadw yn ‘foddhaol’ ac yn dangos arwyddion o welliant.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer da yn y Gymdeithas, y gellir eu cymhwyso ar draws y sector tai yng Nghymru. Ymhlith y rhain mae cefnogaeth y Gymdeithas i Grwp Ymgynghori ar Anabledd Cymdeithas Tai Rhondda sy’n chwarae rhan allweddol i gynrychioli tenantiaid ag anableddau. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth agos â’r Awdurdod Lleol a chymdeithasau tai lleol eraill i sefydlu cofrestr dai i bobl ag anableddau corfforol. A datblygodd The Bolder Project, mewn partneriaeth â sefydliadau fel Cwmni (Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Treherbert) ac Age Concern, i roi cymorth ariannol i bobl dros 65 a’u hannog i gael budd-daliadau nas hawliwyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion sydd â’r nod o hyrwyddo rhagor o welliant, sy’n cynnwys:
- Cryfhau trefniadau ar gyfer cofnodi cwynion; a
- Gweithio gyda phartneriaid ar y Gofrestr Dai Gyffredinol i wella dulliau ar gyfer casglu data ynglyn â’r rhai a gofrestrwyd o ran tai ac amseroedd aros.
Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae gan Gymdeithas Tai Rhondda hanes cryf o lwyddiant a rhan fwyaf o’r amser mae’n darparu gwasanaethau i denantiaid sy’n ‘dda’ ac yn ‘ardderchog’. Mae hefyd wedi ymrwymo i wella rhai meysydd ymhellach - yn enwedig ei gwasanaeth cynnal a chadw, a nodais fel ‘boddhaol’. Nod yr argymhellion yn fy adroddiad yw cefnogi rhagor o welliant. Gobeithiaf y bydd Cymdeithasau eraill yn nodi’r enghreifftiau o arfer da y mae Rhondda wedi’u dangos ac a grybwyllir yn fy adroddiad.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Rhondda ym mis Tachwedd 2006. Mae’r Gymdeithas yn rheoli dros 1,400 o dai ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
- Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1979 ac mae’n gymdeithas tai elusennol sy’n gweithio yn y gymuned ac a reolir gan fwrdd o 15 aelod. Lleolir ei phencadlys yn Nhonypandy.
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
- Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol:
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/ regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
- Caiff gwasanaethau eu graddio drwy ddefnyddio pum categori gwahanol: ‘ardderchog’, ‘da’, ‘boddhaol’, ‘lle i wella’n sylweddol’ neu ‘yn methu â chydymffurfio â’r cod rheoliadol.’ Ceir disgrifiad llawn o bob un o’r categorïau uchod yn Atodiad 2 i’n hadroddiadau arolygu.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|