The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Cymdeithas Tai Cadwyn yn darparu gwasanaethau ‘da
20/11/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhyddhau'r adroddiad ar y Gymdeithas yng Nghaerdydd
Mae Cymdeithas Tai Cadwyn yn darparu gwasanaethau da i denantiaid mewn chwe allan o wyth maes allweddol yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu'r adroddiad fod gan y Gymdeithas yng Nghaerdydd ddull 'ardderchog' o ddarparu tai; gwasanaethau cynnal a chadw a rhenti 'da’; roedd trefniadau ‘da’ ar waith ar gyfer sicrhau cyfle cyfartal ac ar gyfer pobl ag anghenion cymorth; cydberthynas ‘dda’ â phreswylwyr; trefniadau rheoli tai ‘da’; a gwasanaeth rhenti ‘boddhaol’.

Canfu'r adroddiad fod y Gymdeithas yn sicrhau gwelliant parhaus ac yn dangos galluoedd corfforaethol a strategol cryf hefyd.

Caiff enghreifftiau o arfer da a gyflawnir gan y Gymdeithas hefyd eu nodi yn yr adroddiad, y gall sefydliadau tebyg eraill ddysgu ohonynt. Mae'r rhain yn cynnwys: defnyddio asesiadau cydraddoldeb hiliol i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n deg, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion pobl ddigartref; cynnal cynllun cymorth i ddioddefwyr a thystion i roi cefnogaeth i'r rheini sy'n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol; a phrofi gweithdrefnau cydymffurfio'r Gymdeithas o ddydd i ddydd yn rheolaidd.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwelliannau pellach, gan gynnwys:

  • Datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer cyflawni a datblygu gweithgarwch cynnwys tenantiaid, a gwerthuso a chyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau'r gweithgarwch hwnnw;
  • Sicrhau y gwneir cyswllt cynnar a phersonol â thenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent;
  • Datblygu gwasanaeth apwyntiadau atgyweiriadau cynhwysfawr; 
  • Gwerthuso effaith cyngor ar atal dyledion a ddarperir gan staff y Gymdeithas a chan asiantaethau allanol yn gynhwysfawr.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae Cymdeithas Tai Cadwyn yn gyffredinol yn darparu gwasanaeth da i'w thenantiaid. Ac o weithio'n barhaus i ddatblygu'r meysydd yr wyf wedi'u hamlygu yn fy adroddiad, dylai'r Gymdeithas allu gwella amsawdd ei gwasanaethau ymhellach. Rwyf hefyd wedi nodi nifer o enghreifftiau o arfer da, a ddylai fod yn ddiddorol ac yn berthnasol i gymdeithasau tai cyhoeddus eraill yng Nghymru."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Cadwyn ym mis Mawrth 2007. Mae'r Gymdeithas yn rheoli mwy na 1,000 o dai yn bennaf yn ardaloedd y Rhath, Grangetown a Gogledd Llandaf yng Nghaerdydd a rhai yng Nghaerffili.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1974 ac roedd yn enillydd Gwobr Tai y DU am Ragoriaeth mewn Tai Cymdeithasol yng Nghymru yn 2006.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycode
    has;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  • Caiff gwasanaethau eu graddio drwy ddefnyddio pum categori gwahanol: 'ardderchog', 'da', 'boddhaol', 'lle i wella'n sylweddol' neu 'yn methu â chydymffurfio â'r cod rheoliadol.' Ceir disgrifiad llawn o bob un o'r categorïau uchod yn Atodiad 2 i'n hadroddiadau arolygu.
  • Caiff holl adroddiadau arolygu tai Swyddfa Archwilio Cymru eu cynnwys gydag adroddiad cryno byrrach, a gaiff ei ddosbarthu i denantiaid y Gymdeithas. Ysgrifennwyd y 'crynodeb o ganfyddiadau' hwn gan Gynghorydd Arolygu Tenantiaid. Tenantiaid yw'r Cynghorwyr Arolygu Tenantiaid, a gaiff eu cyflogi gan Swyddfa Archwilio Cymru, i roi safbwynt defnyddiwr gwasanaeth ac i helpu i lywio canfyddiadau arolygiadau.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
<< Previous article Next article >>