The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Awdurdodau lleol yn gweithio er mwyn gwella
31/03/2008
Heriau newydd o’n blaen, meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella (RhCG) 2006-2007, a gyhoeddir heddiw, yn dangos bod angen mynd i’r afael ag agweddau o ddefnyddio gwybodaeth ynglyn â risg a mesur perfformiad, a hyn serch gwaith awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau.

Yn gyffredinol, ychydig o newid sydd wedi bod o ran proffil risg gwasanaethau ledled Cymru, ond ceir peth tystiolaeth am wasanaethau’n gwella.  Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i gysylltu asesiadau risg i gynllunio busnes a sylweddoli buddion llawn y fframwaith mesur perfformiad er mwyn iddo roi argraff cyfun a chyson o berfformiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r angen i gynyddu’r gallu a’r medr i ymateb i heriau newydd ac i ffocysu’n effeithiol ar gwrdd ag anghenion y gymuned gyfan.  Mae’r heriau penodol a wynebir gan awdurdodau lleol yn cynnwys rheoli gwastraff, cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a gwella rheoli asedau.

Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
“Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn parhau i ddarparu fframwaith ar gyfer helpu awdurdodau lleol i wella eu gwasanaethau.  Tra bod yna dystiolaeth o wella a dim newid sylweddol o ran risgiau a wynebir gan awdurdodau lleol, mae’n gywir i gwestiynu’r ffordd orau y gall fframwaith y WPI ddatblygu.  Yr her yw ceisio symud y tu hwnt i ddull sy’n bennaf seiliedig ar leihau risg ac yn hytrach i roi pwyslais cadarn ar fesur perfformiad effeithiol a fydd yn cefnogi gwella go iawn.”


Sylwadau i’r Golygyddion:

  • Chwiliodd yr adroddiad hwn am ateb i’r cwestiwn: ‘Ydy Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn dangos sicrhad bod gwasanaethau llywodraeth leol yn gwella?’
  • Sefydlwyd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ym mis Ebrill 2002 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a dyma’r cyfrwng, ynghyd â Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Leol Cymru sy’n ysgogi a chefnogi newid a gwella o fewn cynghorau Cymru.
  • Mae’r WPI yn seiliedig ar asesiad risg o feysydd gwasanaeth a swyddogaethau corfforaethol a gytunir ar y cyd gan yr awdurdod lleol a’i reoleiddwyr sydd, yn eu tro, yn rhoi gwybod i Gynllun Gwella’r awdurdod.
  • Mae’r Fframwaith Mesur Perfformiad wedi’i wneud o gyfres ddangosyddion cenedlaethol strategol y mae’n rhaid i awdurdodau lleol adrodd arnynt ac o gyfres o ddangosyddion y mae’n rhaid iddynt eu casglu a phenderfynu ar sut i’w defnyddio. 
  • Bob blwyddyn, mae Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â rheoleiddwyr eraill, yn ystyried a ydy canlyniadau’r prosesau WPI yn profi bod awdurdodau lleol yn dangos gwella parhaol ac a ydynt yn cymhwyso’r fframwaith WPI yn briodol.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol o lywodraeth ac yn gyfrifol am yr archwilio blynyddol o ryw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. 
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a estynnodd cyfrifoldebau Archwilydd Cyffredinol Cymru gan alluogi trosglwyddiadau staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cenedlaethol Cymru i’w gyflogaeth.
<< Previous article Next article >>