|
Mae cynllun cenedlaethol a gynlluniwyd i ganfod twyll yn y sector cyhoeddus wedi arbed miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007 fu'r ymarfer mwyaf llwyddiannus hyd yma ers ei sefydlu yn 1996. Ar gyfer y cyfnod 2006/2007 mae cyfanswm gwerth y twyll a'r gordaliadau a nodwyd wedi cynyddu 73 y cant o £2.6 miliwn fel y cofnodwyd yn 2004/2005 i £4.5 miliwn yn 2006/2007.
Gyda Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007 croeswiriwyd derbynyddion gostyngiadau person sengl o'r dreth gyngor gyda'r gofrestr etholwyr am y tro cyntaf. Lwyddodd ymarfer peilot, yn cynnwys Cyngor Caerdydd, i ganfod arbedion o dros £2.5 miliwn i bwrs y wlad.
Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn gweithio drwy gymharu data gan wahanol gyrff cyhoeddus i ddod o hyd i achosion amheus. Mae gwerth y twyll a ganfuwyd gan y Fenter Twyll Genedlaethol wedi cynyddu am fod y systemau mwy soffistigedig y mae’r Fenter yn eu defnyddio yn ogystal â pharodrwydd cyrff unigol i archwilio achosion.
Mewn rhai meysydd, fel budd-dal tai, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod gwerth y twyll a'r gordaliadau a ganfuwyd gan y Fenter Twyll Genedlaethol wedi gostwng, ac mae hyn yn awgrymu y bu ymarferion blaenorol y Fenter yn llwyddiannus wrth ddiddymu llawer o'r achosion hirdymor, ac felly'r achosion o dwyll gwerth uchel.
Mae datblygiadau a wnaed i ddiogelwch y Fenter Twyll Genedlaethol wedi cyflawni buddiannau sylweddol yn 2006/2007 hefyd. Mae cyflwyno offeryn diogel newydd ar y we i gofnodi canlyniadau wedi dileu'r risg sy'n gysylltiedig â'r broses o drosglwyddo setiau data'n ffisegol.
Cyfranogodd 70 o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007. Ymhlith y rhain roedd awdurdodau lleol, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân, Ymddiriedolaethau'r GIG, byrddau iechyd lleol, byrddau prawf a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Er i'r adroddiad hwn gyflwyno rhai canfyddiadau sylweddol, mae nifer o wasanaethau cyhoeddus lle mae lle i ddefnyddio ymarferion paru data ymhellach i ganfod ac atal twyll. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi ei ymrwymiad i ddatblygu'r Fenter Twyll Genedlaethol ac ymarferion paru data eraill.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
“Mae'r canlyniadau'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo cyrff y sector cyhoeddus yn cydweithio i drechu twyll. Mae twyll yn fater difrifol; mae'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'r hyder yn y cyrff sy'n eu darparu. Bu'r Fenter Twyll Genedlaethol yn hanfodol wrth nodi a threchu twyll, mae ei werth hirdymor i'r sector cyhoeddus wedi dod yn anfesuradwy.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Sefydlwyd y Fenter Twyll Genedlaethol i alluogi cyrff y sector cyhoeddus i baru data hawlwyr ar draws gwahanol feysydd gwasanaeth a systemau ffiniau daearyddol er mwyn nodi taliadau a allai fod yn dwyllodrus neu'n wallus ac erbyn hyn dyma brif ymarfer canfod twyll y sector cyhoeddus yn y DU.
- Dechreuodd yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol yn 1996, ac fe'i cynhelir bob dwy flynedd bellach. Hyd yma fe'i defnyddiwyd i nodi cyfanswm o fwy na £450 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn y DU; £11.5 miliwn mewn perthynas â Chymru.
- Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno gwybodaeth am eu systemau ariannol. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â budd-dal tai, rhenti, ad-daliadau, taliadau pensiwn, cyflogres, taliadau i geiswyr lloches, tenantiaethau cyngor, dyfarniadau myfyrwyr, cofnodion marwolaethau ac ati.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|