The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Rhaid dilyn rheoliadau sylfaenol er mwyn amddiffyn arian cyhoeddus
11/06/2008
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn argymell gwella rheoliadau ariannol er mwyn amddiffyn arian Cynghorau Cymunedol
Nid oedd y prosesau gweithredol i amddiffyn arian pedwar o Gynghorau Cymuned yng Ngogledd Cymru yn ddigonol o bell ffordd, wrth i un aelod o staff ddwyn dros £64,000 dros gyfnod o flynyddoedd. 

Mae’r casgliadau allweddol wedi’u cynnwys o fewn pedwar adroddiad a gyhoeddwyd er budd gwybodaeth y cyhoedd ynglyn â Chyngor Tref Cricieth, Cyngor Cymunedol Llanor, Cyngor Cymunedol Buan a Chyngor Cymunedol Llanbedrog. Anthony Barrett yw awdur yr adroddiad, yr archwilydd a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae Mr Barrett wedi cyhoeddi’r adroddiadau yma er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at fethiannau cytundebau llywodraethu a rheolaeth mewnol yn y Cynghorau a adawodd i arian cyhoeddus gael ei ddwyn gan y clerc ar y pryd.

Fel canlyniad, dedfrydwyd Mrs Sian Francis i garchar am 15 mis ym mis Mawrth 2007 am droseddau cyfrifo twyllodrus gwerth dros £64.000 yn ystod ei hamser fel Clerc i’r pedwar Cyngor Cymunedol. Mae’r llys eisoes wedi delio ag ymddygiad troseddol Mrs Francis. Mae’r adroddiadau yn ffocysu ar ffaeleddau trefniadau llywodraethu y Cyngor a diffygion y rheolaeth mewnol a arweiniodd at ddwyn arian cyhoeddus. 
Dywed Anthony Barrett “Mae yma wersi pwysig i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Amlygwyd pryderon yn wreiddiol gan yr archwilydd mewnol ond nid ystyriwyd y rhain yn drylwyr gan y Cynghorau. Wedi i ni ddechrau ar ein gwaith archwilio, daeth yn amlwg mai’r rheswm yr oedd Sian Francis yn gallu dwyn yr arian oedd y ffaith bod cynghorwyr yn arwyddio seiciau gweigion. Ni ddylai aelodau arwyddo sieciau gweigion o gwbl. Ni fyddant yn arwyddo sieciau gweigion o’u cyfrifon personol, ac felly ni ddylent wneud yr un peth ag arian cyhoeddus y maent yn gyfrifol amdano. “

Mae’r adroddiadau yn cynnwys argymhellion a ddylai fod o gymorth wrth geisio amddiffyn arian cyhoeddus yng ngweithredaeth Cynghorau Cymunedol yn y dyfodol.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio dros £19 bliliwn o wariant blynyddol cyhoeddus. Ei nod yw hyrwyddo gwella, er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus cyfrifol, sydd wedi’u rheoli’n effeithiol ac sy’n cynnig y gwerth gorau am arian. Mae hefyd yn ymrwymiedig i adnabod a lledaenu ymarfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 o dan Ddeddf Archwilio cyhoeddus (Cymru) 2004 a ymestynodd swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol dros Gymru a galluogi trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru i’w gyflogaeth ef. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Helen Keatley ar 02920 320518 neu e-bostiwch helen.keatley@wao.gov.uk.

<< Previous article Next article >>